Fe fydd S4C yn darlledu première y ffilm animeiddiedig o glasur Dylan Thomas, Nadolig Plentyn yng Nghymru, dros yr Ŵyl eleni – ac fel rhagflas i'r ffilm, fe glywn atgofion Nadolig difyr y cast a'r criw a fu'n lleisio, canu a gweithio arni.
Yn y rhaglen Atgofion Nadolig yng Nghymru cawn glywed gan yr actor Matthew Rhys, yr actores Rhian Morgan, y sgriptiwr T James Jones ac aelodau côr Only Men Aloud ymysg eraill o gast a chriw'r ffilm.
Matthew, a bortreadodd Dylan Thomas yn y ffilm ddiweddar The Edge of Love, yw adroddwr y ffilm ac mae'n rhannu brwdfrydedd a chariad y bardd tuag at ŵyl y Nadolig.
Meddai Matthew, "Rwy'n dal i ddwlu ar y Nadolig a gan fod gan fy chwaer ddau o blant bach nawr, mae hud yr ŵyl yn parhau. Mae mam yn draddodwraig fawr ac felly mae'r Nadolig yn achlysur pwysig. Rwy'n dal i gael hosan Nadolig yn llond hi o gnau, tanjerins ac wrth gwrs, yr hen ffefryn, Terry's Chocolate Orange."
Un o'r anrhegion mwyaf cofiadwy a gafodd Matthew erioed oedd trac siwt goch gyda'r llythrennau M R wedi'u stampio arno - ond yr anrheg sy'n cael ei defnyddio fwyaf efallai yw copi o lyfr Dylan Thomas, Nadolig Plentyn yng Nghymru, gan fod Matthew yn ei ddarllen cyn y Nadolig bob blwyddyn er mwyn iddo fynd i ysbryd yr ŵyl.
Mae Rhian Morgan yn cofio derbyn ukelele un Nadolig a hithau wedi gofyn am gitâr a bod Anti Doris wastad yn gosod jelly tots ar dop y gacen Nadolig, er mawr ddiléit i Rhian fel plentyn. Mae'r awdur T. James Jones yn dweud bod "plwm pudding" yn hanfodol bob Nadolig p'un ai roedd arian wedi ei gladdu ynddo ai peidio!
Mae Gwion Jones, un o'r bechgyn a enillodd le yn y sioe West End, Oliver! ar ôl cystadlu yn y gyfres BBC I'd Do Anything ac enillwyr y sioe deledu Last Choir Standing, Only Men Aloud, yn perfformio caneuon yn y ffilm.
Mae'r soprano 12 oed o Landeilo yn datgelu bod yn well ganddo bîff i dwrci ddydd Nadolig tra bod yn rhaid i arweinydd Only Men Aloud, Tim Rhys Evans gael saws cranberi a bara a'r trimmings ar ei blât. Mae aelod eraill o'r côr yn cofio'r Nadolig pan gafodd hanner potel o Cologne yn anrheg gan fodryb!
A chawn rai o'r atgofion mwyaf lliwgar gan ferch Dylan Thomas ei hun, Aeronwy Thomas.
Meddai Aeronwy: "Rwy'n cofio bod y gelynnen wastad yn cael ei llosgi gan fflamau'r tanllwyth yn y grât ac roedd yn rhaid i ni ddiffodd y fflamau cyn iddynt ddechrau tân yn y tŷ. Rwyf hefyd yn cofio'r teulu cyfan yn chwarae gêmau yn ymwneud â geiriau yn y prynhawn."
Mae'r rhaglen, a gynhyrchir gan Cwmni Da, hefyd yn cynnwys clipiau blasus o'r ffilm newydd fel tamaid i aros pryd cyn y dangosiad cyntaf ar deledu ar Noswyl y Nadolig.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales