Bydd cyfres ddogfen ddwy ran ar S4C yn dilyn plant o slymiau yn Nairobi, Kenya ac o Nefyn, Pen Llŷn wrth iddyn nhw gydweithio â'i gilydd ar brosiect creadigol a allai newid eu bywydau am byth.
Mae'r gyfres O Nefyn i Nairobi yn dilyn plant o Ysgol Gynradd Nefyn ac Academi Spurgeons Nairobi ar gynllun cyfnewid unigryw fydd yn arwain at berfformiad o gân y plant yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri 2012 a Charnifal Nefyn ym mis Mehefin.
Ers i'r ddwy ysgol efeillio, maen nhw wedi ffurfio perthynas glos sydd wedi ehangu gorwelion y disgyblion, er gwaethaf y gwahaniaethau mewn cefndir a safonau byw.
Mae Nefyn yn bentre' braf glan y môr o 2,500 o bobl gyda holl gyfleusterau'r byd modern, tra bod Academi Spurgeons yn Kibera, ail slym ddinesig fwyaf Affrica, lle mae hyd at filiwn o bobl yn byw mewn tlodi eithafol, heb wasanaethau sylfaenol fel trydan a dŵr tap.
Fe drefnwyd y gefeillio fel rhan o waith 'Anno's Africa', elusen a sefydlwyd yn enw Anno Birkin, bardd a cherddor ifanc Cymreig a fu farw mewn damwain car yn Nhachwedd 2001. Mam Anno, Bree Gilbert, sy'n byw yn Nefyn, sydd y tu ôl i'r prosiect sy'n anelu at ddarparu addysg gelfyddydol i rai o blant tlotaf Dwyrain Affrica.
Mae Ysgol Nefyn yn helpu noddi pum plentyn amddifad yn Nairobi ac yn trefnu bod plant yr ysgol yn llythyru â phlant o'r Academi. Nawr mae Joy Brown a phobl Nefyn wedi trefnu bod criw o bedwar o blant 10 oed o Kenya yn treulio pythefnos yn byw gyda'u ffrindiau o Gymru, yn mynychu'r ysgol leol ac yn darganfod beth sy'n wahanol ac yn debyg am eu bywydau.
Mae cyfres S4C, sydd wedi ei chynhyrchu gan gwmni ie ie, yn dilyn Fredrick, Wilson, Viginia a Victoria ar eu hymweliad ac wrth iddynt baratoi ar gyfer perfformio cân y plant 'Mama' yn Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 ac yng Ngharnifal Nefyn. Cafodd y gân ei chyfansoddi yn Swahili gan y plant o Kenya a'i chyfieithu i'r Gymraeg.
Meddai Joy Brown, un o brif drefnwyr y gefeillio, "Fe fydd hon yn siwrnai emosiynol iawn. Hyd yn hyn, mae pob dim rydyn ni wedi ei ddysgu am y plant yn Nairobi wedi bod trwy gyfrwng lluniau a straeon pobol eraill. Rŵan rydyn ni'n mynd i brofi'r cyfan drosta i fy hun. Mae plant Ysgol Gynradd Nefyn 'di bod yn wych. Mae eu hymwybyddiaeth a'u hawydd i fod o gymorth i blant llai ffodus na nhw wedi bod yn anhygoel. A rŵan maen nhw'n mynd i gyfarfod ei gilydd."
Ychwanegodd cynhyrchydd y rhaglen Catryn Ramasut, "Roedd hi'n anrhydedd i mi a'r cyfarwyddwr Harry Holm dderbyn gwahoddiad i ddilyn cynllun cyfnewid cynta' Anno's Africa. Y gobaith yw y bydd hyn yn galluogi i blant y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol ddeall tipyn mwy am eu diwylliannau gwahanol a chael cipolwg amhrisiadwy ar fywydau ei gilydd."