Neidio at y cynnwys

S4C

Nigel Owens

Nigel Owens

Portread o Nigel Owens

Bydd gan wylwyr S4C gyfle unigryw i ddod i adnabod un o selogion rygbi wrth wylio portread unigryw a theimladwy o'r dyfarnwr rygbi uchel ei barch, Nigel Owens.

Huw Llywelyn Davies fydd yn sgwrsio gyda Nigel a chawn ddilyn y dyfarnwr wrth ei waith bob dydd ar y cae rygbi - yn hyfforddi ac yn cynnal ei lefelau ffitrwydd.

Uchafbwynt

Bydd Nigel yn dyfarnu yn ystod penwythnos agoriadol y Chwe Gwlad yng ngêm Yr Alban v Ffrainc ac mae hefyd yn prysur baratoi ar gyfer un o uchafbwyntiau ei yrfa hyd yma - cadw'r ddysgl yn wastad yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2011 yn Seland Newydd.

Yn y rhaglen, mae Nigel yn sôn am bwysigrwydd ei ardal enedigol - Mynyddcerrig - lle sbardunwyd ei ddiddordeb ym myd rygbi.

"Mae fy milltir sgwâr yn bwysig iawn i fi - rwy'n dal i fyw yn yr un ardal felly mae'n rhaid ei fod yn meddwl lot i fi. Dwi ddim wedi cael unrhyw reswm i symud - rwy'n hapus yma ymysg y bobl a'r gymuned glos iawn."

Y dyn tu ol i'r chwiban

Mae Nigel hefyd wedi magu enw fel digrifwr adnabyddus, gan ymddangos ar y sioeau adloniant Jonathan a Noson Lawen, ymhlith rhaglenni eraill. Byddwn yn clywed am ei siwrnai anhygoel i gyrraedd uchelfannau'r byd rygbi, a'i benderfyniad dewr i drafod ei fywyd personol, sydd wedi'i wneud yn ysbrydoliaeth i nifer.

"Roedd yn anodd dod i delerau gyda bod yn hoyw a doeddwn i ddim yn hapus yn fy mywyd personol - ro'n i'n gwybod fod angen i fi wneud rhywbeth. Ac yn y pen draw, roedd y problemau personol yn dechrau effeithio ar fy mherfformiadau ar y cae rygbi. Yr unig opsiwn oedd bod yn realistig gyda fi fy hun a gwneud penderfyniad mwya' 'mywyd i.

"Roedd lot o bwysau arnai i ddod mas, ond mae'r ymateb wedi bod yn bositif iawn dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n cael pobl yn gofyn ifi am gyngor. Mae'n bwysig 'mod i'n gallu helpu eraill mewn unrhyw ffordd posib'," eglura.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales