I'r newyddiadurwr Karen Owen, mae amgylchiadau marwolaeth ei hen-nain yn dipyn o ddirgelwch.
Darganfuwyd Frida Williams yn farw yn ei chartref ar fore'r 10fed o Ragfyr, 1949. Er bod marwolaeth naturiol wedi ei gofnodi gan y doctor ar y pryd, nid yw darnau'r jig-so cymhleth hwn yn cwympo i'w lle.
Mae'r rhaglen yn dilyn taith emosiynol Karen wrth iddi geisio gwneud synnwyr o symudiadau olaf Frida a'r digwyddiadau o gylch ei marwolaeth.
Mae Karen wedi clywed yr hanes lawer tro am sut y bu i fab Frida, Adrian (taid Karen) ei darganfod ar y bore Sul hwnnw.
Yn ystod y rhaglen mae Karen yn galw yn 24 Stryd Menai am y tro cyntaf ac yn gweld yr ystafell wely lle cymerodd Frida ei hanadl olaf.
Wrth iddi ymweld â'r bedd, mae ei hamheuon am y dirgelwch yn cryfhau wrth weld y garreg fedd blaen ymysg cerrig addurniadol y cyfnod.
Beth fydd ymchwil Karen yn ei ddatgelu, ac a fydd hi unrhyw faint yn nes at ddarganfod beth ddigwyddodd?
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales