Ddeng mlynedd yn ôl roedd pwysau rhedeg fferm ddefaid a gwartheg yn Nyffryn Ceiriog wedi mynd yn drech ar Goronwy a Gwenda Morris. Gydag effaith BSE a'r cyfyngiadau llym ar allforio, roedd cynnal bywoliaeth amaethyddol yn anodd iawn i deulu Cae Hir ger Llanrhaeadr ym Mochnant.
Wedi hir bendroni, ffraeo a chrio fe benderfynodd Goronwy a Gwenda fudo i wastatir ffrwythlon Alberta yng Nghanada i geisio bywyd gwell. Fe aeth eu mab Emyr, a oedd yn bymtheg oed ar y pryd, gyda nhw ond aros yng Nghymru wnaeth y merched Eleri, Awel a Nesta.
Bu Beti George yn dilyn eu hanes bryd hynny gan brofi poen yr ymwahanu. Yn y rhaglen arbennig hon, mae Beti'n ail-gwrdd â'r teulu ar achlysur dipyn hapusach wrth iddynt i gyd ddod at ei gilydd am y tro cyntaf ar gyfer priodas Emyr a'i wraig o Ganada, Cyndi.
Er mai Cymru oedd wedi magu a meithrin Emyr, fe fwriodd ei wreiddiau yn gyflym iawn yng Nghanada. Wrth iddo weithio gyda'i dad i ffermio'r tir newydd ac uno â merch leol mewn priodas, dyma fydd ei gartref bellach.
Mae Goronwy yntau yn teimlo fod y penderfyniad wedi cynnig yr achubiaeth yr oedd yn gobeithio amdano wrth iddo gael mwy o amser rhydd a sefydlu busnes llwyddiannus ar gyfer y cenedlaethau i ddod.
O'r ffilmiau archif daw'n amlwg mai Gwenda, o'r tri, oedd yn dioddef y gwewyr meddwl mwyaf am adael ei chartref, ei hunaniaeth a chwmnïaeth ei merched a'i mam. Mae'n amlwg hyd heddiw ei bod hi'n ansicr a wnaed y peth iawn ddeng mlynedd yn ôl.
"Mae'n bechod se chi ddim yn gallu neud e yng Nghymru. Dyna'r peth gwaethaf." dywed Gwenda. "Yr unig beth sy'n cadw chi fynd yw pan mae rhywun yn ffonio a dweud eich bod chi wedi neud y penderfyniad iawn."
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales