Pan oedd Ben Thomas yn bedair ar ddeg fe gafodd brofiad ysbrydol a'i ysgwyddodd at ddagrau. O'r funud honno fe wyddai fod ganddo'i ran i chwarae wrth ledaenu gair Duw.
Bellach mae Ben, a adawodd yrfa lwyddiannus fel newyddiadurwr ar Wales Today i bregethu'r efengyl ar strydoedd prysur Covent Garden, yn fugail ar eglwys Efengylaidd yng Nghricieth.
Mae O Flaen dy Lygaid: Cadw'r Ffydd yn dilyn taith Ben, ei wraig Bethan a'i merched Megan ac Angharad, wrth iddyn nhw ffarwelio â bywyd dinas brysur a derbyn croeso cymuned glan môr yng ngogledd Cymru.
Fedrai bywyd yng Nghricieth ddim bod yn fwy gwahanol i Lundain ond yr un yw galwedigaeth ac ymrwymiad Ben wrth iddo ledaenu efengyl Duw o fewn a thu allan i furiau'r eglwys.
Mae cenhadu ar y stryd, pun ai yn Soho neu ym Mhorthmadog, yn hollbwysig iddo.
"Gyda theuluoedd yn chwalu a phobol yn byw bywydau unigol iawn ac unig, 'da ni'n gweld hi'n rhan bwysig o'n gwaith ni bo ni'n cael cyfle, ac yn rhoi cyfle i bobl rannu gyda ni," esbonia Ben am bwysigrwydd rhannu'r gair ar y stryd.
Mae yntau a'i deulu wedi wynebu sialensiau ond cryfhau eu ffydd wnaeth yr anawsterau gan eu gwneud yn fwy diolchgar byth o ofal yr Arglwydd a'r gefnogaeth, y cariad a'r bywyd y mae wedi ei roi iddyn nhw.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales