Yn y rhaglen hon bydd dau enw cyfarwydd yn mynd ar hynt eu hanes a’u tras deuluol gan ofyn y cwestiwn ‘Ydw i’n Gelt?’.
Mae gwreiddiau Dewi Prysor yn ddwfn yn ei ardal yng ngogledd Cymru, ac mae’n teimlo’n gryf bod y tir a’i iaith yn hanfodol i’w hunaniaeth. Mae hefyd yn grediniol ei fod yn perthyn i draddodiad a theulu sy’n mynd nôl i gyfnod cyn i’r Rhufeiniaid gyrraedd Cymru, ac mai Celt ydi o. Mae’r awdur Catrin Dafydd hefyd yn ystyried ei hun yn Gelt, gyda’i theulu yn hanu o ogledd a gorllewin Cymru ac Ynys Enlli. Ond mae hi’n tueddu i ddiffinio ei hun yn fwy modern - fel ‘Cymraes Ewropeaidd’.
Bydd y rhaglen yn dilyn taith y ddau wrth iddynt holi amrywiol arbenigwyr am y syniad hwn o fod yn Gelt. Maent yn dystion i ddigwyddiadau ‘Celtaidd’ ac yn fwy chwyldroadol, maen nhw’n cymryd prawf DNA i ddarganfod eu llinach trwy wyddoniaeth.
“Dwi’n eitha’ sicr mod i’n Frython, achos mae teulu ’nhad yn ardaloedd Traws, Harlech a Llanuwchllyn ers cenedlaethau maith,” meddai Dewi Prysor. “Ond fe dreuliodd Edward y 1af y noson yng Nghastell Prysor, bum can llath o nghartre i le ges i’n magu. Ysgwn i os oedd o ’di bod yn hel ei dîn o gwmpas yr ardal? Se’n uffarn o beth ’swn i’n troi allan i berthyn i hwnnw!”
“Mae’r syniad o etifeddiaeth enetig wastad wedi apelio ata i beth bynnag,” meddai Catrin Dafydd. “Dwi’n meddwl bod lot o bobol, yn enwedig yn yr oes fodern, yn chwilio am yr angor yma i wneud i ti deimlo bo ti’n perthyn...”
Ond wrth droi at fyd gwyddoniaeth, mae canfyddiadau’r profion DNA yn gryn syndod i Dewi a Catrin fel ei gilydd.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales