Neidio at y cynnwys

S4C

o flaen dy lygaid

O Flaen Dy Lygaid: Cofi Opera

Yr argraff o fyd opera yw ei fod yn uchel-ael, yn apelio at griw dethol, diwylliedig o bobl. Nid y math o gerddoriaeth sy’n neidio i’r meddwl wrth drafod un o stadau difreintiedig gogledd Cymru, sef Ysgubor Goch, Caernarfon.

Y syniad tu ôl i ‘Cofi Opera’ oedd creu, cynhyrchu a pherfformio opera unigryw yn Sgubor Goch, gydag ieuenctid y stad yn perfformio ochr yn ochr â chantorion opera proffesiynol. Gobaith y rhai y tu ôl i’r cynllun, sy’n rhan o brosiect Cofis Bach, oedd y byddai creu brwdfrydedd a chydweithio yn arwain at falchder a fyddai’n mynd y tu hwnt i’r profiad ar y llwyfan.

“Mae gynnyn nhw frwydr anferthol ar eu dwylo,” meddai Manon Llwyd, Cydlynydd artistig Cofis bach am blant y stad. “Maen nhw yn cael eu geni i sefyllfa o frwydr... ac mae hwnna’n ddychrynllyd, bod eich hanes chi yn mynd o’ch blaen chi mewn ffordd, oherwydd lle ’dach chi’n byw.”

Bu’r bardd Meirion MacIntyre Hughes, sy’n Gofi ei hun, yn cydweithio gyda’r plant i greu geiriau’r opera.

“Am ddwy awr oedd o fel mynd i mewn i focs o dân gwyllt ac mae rhywun yn taflu matsien i’w ganol o,” meddai Meirion. “Ac mae’r tân gwyllt yn mynd i bob man am ddwy awr gyfan.”

Y cyfansoddwr Owain Llwyd sy’n gyfrifol am gerddoriaeth yr opera, ac mae i’w weld yn tynnu ysbrydoliaeth o dref Caernarfon ei hun, yn recordio’r gwylanod, cymeriadau lleol yn siarad iaith y Cofi wrth y bar, yr adeiladu sy’n mynd rhagddo yn noc Fictoria.

Un arall allweddol yn y cynhyrchiad oedd y rapiwr Ed Holden, un sy’n gwneud ei fywoliaeth allan o ‘beatbocsio’, ac roedd o’n ysbrydoliaeth i rai o’r hogiau lleol berfformio fel rapwyr yn yr opera.

“Dwi’n ’neud bywoliaeth allan o neud sŵn hefo ceg fi,” meddai. “Roeddan nhw (y plant) fatha ‘No way’ ac oedd o’n agor eu meddylia nhw’n hollol, fatha ‘hang on a minute’ dan i’m angen gwisgo siwt ac ista o flaen bwrdd yn sgwennu...”

Ond pan ddaw noson y cynhyrchiad, a phawb ar binnau i gael llwyddiant, mae Jason ‘84’ fel y caiff ei adnabod, un o’r rapwyr sy’n ganolog i’r perfformiad, wedi cael ei arestio’r noson gynt. Ddaw pethau at ei gilydd i Opera Cofi?

Dolenni O Flaen Dy Lygaid:

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales