Gyda phenawdau rheolaidd am lifogydd a stormydd yn difrodi tai ac eiddo, mae'r hinsawdd yn fwy o bwnc llosg nag erioed o'r blaen, a'r wythnos hon bydd rhifynnau arbennig o ddwy o brif raglenni BBC Cymru ar S4C yn trin a thrafod y pwnc tanbaid hwn, gyda BBC Radio Cymru yn ymuno yn y drafodaeth.
Mae'n ymddangos bod stormydd ffyrnig yn dod yn fwy cyffredin a lefel y môr yn codi, bydd y rhaglen arbennig O Flaen Dy Lygaid: Dyfroedd Dyfnion yn trafod beth yw'r rhagolygon i Gymru, a'r holl bobl sy'n byw mewn ardaloedd allai gael eu heffeithio gan dywydd mwy garw. Bydd arbenigwyr yn dweud eu barn, ond yr un mor bwysig fydd barn y rhai hynny sy'n ystyried rŵan beth fydd y sefyllfa mewn difrif i'r genhedlaeth nesaf.
Iolo ap Dafydd, Gohebydd Amgylchedd a Materion Gwledig BBC Cymru, sy'n cyflwyno'r rhaglen.
"Yr hyn sy'n sobri dyn yw nad problem can mlynedd, neu ddau gan mlynedd yn y dyfodol ydy newid hinsawdd - ond rhywbeth llawer nes, llawer mwy eang nag sy'n cael ei ddeall a'i werthfawrogi ar hyn o bryd," meddai.
"Yn bersonol, mae gwneud y rhaglen wedi bod yn agoriad llygad ac fel tad i ddwy ferch, ac fel newyddiadurwr, mae'r darogan - ar ei waethaf - yn dychryn ac yn gwneud imi holi, pam nad oes mwy yn cael ei wneud heddiw am hyn?"
Bu Iolo a'r tîm yn dilyn gwyddonwyr o Gymru i'r Alban a'r Ynys Las (Greenland).
"Dwi'n credu mai hedfan dros yr ia, sy'n gannoedd o filltiroedd ar draws ac ar led, wnaeth fy ysgwyd fwyaf," meddai Iolo, "o achos ei faint, ac o achos cyn gymaint o ddŵr oedd ar wyneb y rhew. I mi, roedd yn brawf uniongyrchol bod y tymheredd yn cynhesu yn y rhan yna o'r byd, gan fod y meirioli yn digwydd mor gyflym, a'r haul ganol dydd mor gynnes - hyd yn oed mor bell i'r gogledd."
Ar nos Iau (4 Rhagfyr), bydd rhifyn arbennig o Pawb a'i Farn o'r Gerddi Botaneg Cenedlaethol, Llanarthne hefyd yn trafod pynciau amgylcheddol fel effeithiau cynhesu byd eang ac yn codi cwestiynau am ymarferoldeb cynlluniau gwyrdd o gofio cyflwr yr economi, diweithdra cynyddol a chostau i fusnesau a diwydiant.
Bydd y rhaglen hefyd yn torri tir newydd yn hanes y rhaglen, wrth ymuno yn fyw gyda BBC Radio Cymru am gyd-drafodaeth.
Dewi Llwyd fydd yn cadeirio'r drafodaeth o'r ardd gyda chynulleidfa a fydd yn cynnwys arbenigwyr ym maes yr amgylchedd, ac ar y panel bydd pedwar wyneb cyfarwydd yn barod i gael eu holi a'u stilio – y cyflwynydd teledu a naturiaethwr Iolo Williams; Albert Owen, Aelod Seneddol Llafur Môn; Llywelyn Rhys, Pennaeth Cymru, Cymdeithas Ynni Gwynt Prydain a'r Athro Einir Young, Pennaeth Datblygu Cynaliadwy, Prifysgol Cymru Bangor. Yr un pryd, ar BBC Radio Cymru, bydd Dylan Jones yn cynnal rhaglen arbennig o Taro'r Post ar C2 ar Radio Cymru, gan ddilyn y drafodaeth stiwdio ac ymuno yn y drafodaeth.
"Mae'r amgylchedd yn rhywbeth sydd o gonsyrn i bawb, gyda'r genhedlaeth iau yn aml yn arwain y ffordd," meddai Geraint Lewis Jones, golygydd Materion Cyfoes BBC Cymru. "Mae'n gwneud perffaith synnwyr felly i apelio am farn y genhedlaeth ifanc trwy gysylltu cynulleidfa C2 gyda chynulleidfa Pawb a'i Farn." Mae'r darllediadau teledu yn rhan o flwyddyn o raglenni Gwyrdd ar S4C, sy'n trin a thrafod amrywiol agweddau'r amgylchedd.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales