Neidio at y cynnwys

S4C

o flaen dy lygaid

O Flaen Dy Lygaid: Gorawen

Iechyd meddwl a chreadigrwydd

David Edwards o'r grŵp Datblygu oedd un o artistiaid mwyaf arloesol y Nawdegau. Roedd ei ganeuon yn farddonol a'i gerddoriaeth hudolus yn swyno cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.

Yn ymuno â David ar ambell drac oedd ei gyfaill annwyl, yr actores a'r gantores Rhian Ree Davies.

Yn y rhaglen mae David a Ree yn siarad yn agored am eu salwch, am eu cyfnodau mewn ysbytai meddwl ac am eu gobeithion am y dyfodol.

Brwydr

Mae David bellach yn byw nôl yn Aberteifi lle cafodd ei fagu ac mae wedi dioddef o sgitsoffrenia, cyflwr bi-polar a gorffwylldra paranoia. Er ei fod wedi treulio'r pymtheg mlynedd diwethaf yn brwydro'r salwch, mae'n cyfaddef nad oedd hyn yn syndod iddo.

"Fi wastad wedi credu fod rhwbeth yn wrong arna i," esbonia.

Er ei fod yn dal i gymryd moddion, mae David yn sylweddoli ei fod yn parhau i yfed yn ormodol ac fod angen iddo newid ei ymddygiad os yw ei gyflwr am wella.

"Dwi just eisiau byw - byw o ddydd i ddydd yn rhwydd," meddai David wrth drafod ei ddyfodol.

Chwilio am lonyddwch

Ei mab Elis, sy'n rhoi ffocws i fywyd Ree. Mae'n byw yng Nghaerdydd ac wedi cyfansoddi, pherfformio ac actio am gyfnod yn Pobol y Cwm.

Mae ganddi deimladau cymysg am ei chyflwr, ac er ei bod yn mwynhau'r uchafbwyntiau creadigol mae'n sylweddoli fod pris i'w dalu pan mae yng nghyfnod o iselder y salwch.

"Mae e fel cylch. Dwi'n mynd lawr a wedyn fi'n mynd fyny a lawr - fi byth wedi bod yn llyfn yn fy mywyd i. A dyna beth fi'n chwilio am - llonyddwch."

Dolenni O Flaen Dy Lygaid:

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales