Gyda thaith y Llewod i Dde Affrica ar fin dechrau, hanes y daith fythgofiadwy yn 1974 sy'n cael sylw rhifyn arbennig o'r gyfres O Flaen Dy Lygaid.
Bu'r daith yn ddadleuol o safbwynt gwleidyddol oherwydd yr apartheid yn Ne Affrica a'r rhaniadau hiliol yn y wlad. Roedd gwrthwynebiad chwyrn yn erbyn Taith y Llewod i Dde Affrica a gwahaniaeth barn rhwng llywodraeth Prydain a'r undebau rygbi.
Un dyn a benderfynodd beidio â mynd ar y daith ym 1974, er ei fod yn un o asgellwyr gorau'r byd ar y pryd, yw Rheolwr y Llewod presennol, Gerald Davies.
"Ro'n i wedi ystyried y peth ond roedd sawl rheswm pam do'n i ddim yn gallu mynd ar y daith. Yn rhan o hynny oedd y busnes apartheid 'ma. Rhywbeth moesol oedd e, a rhyngddo i a'm cydwybod," meddai'r cyn asgellwr.
Er i Gerald Davies aros adref yng Nghymru, penderfynodd cyn-fewnwr Cymru Gareth Edwards gymryd rhan yn y daith. Meddai Gareth, sy'n wreiddiol o Waun-cae-Gurwen, "Pa grwtyn sydd ddim eisiau mynd allan i 'ware rygbi yn erbyn timau gorau'r byd?
"Mae'n rhaid imi gyfadde' mai'r unig beth oedd ar fy meddwl i oedd chwarae rygbi mewn gwlad oedd yn fyd-enwog am chwarae rygbi. A falle fod hwnna ychydig bach yn naïf ond dyna beth oedd ar fy meddwl."
Bydd y rhaglen hefyd yn siarad â chyn-gapten a chyn-hyfforddwr Cymru, Clive Rowlands, un o ddewiswyr Taith 1974 am ei brofiadau. A bydd ffilm archif o'r newyddion â'r rygbi yn rhoi blas ar y cyfnod cythryblus hwnnw, a chwarae gwefreiddiol y Llewod.
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales