Neidio at y cynnwys

S4C

o flaen dy lygaid

O Flaen Dy Lygaid: Man Gwyn Man Draw

Bywyd teulu o Gymru ar ynys bellennig yn Yr Alban

Ar ynys anghysbell Canna yng ngorllewin yr Alban, mae teulu o Gwm Gwendraeth wedi bwrw eu gwreiddiau ymysg y morloi, y cornicyllod a'r anifeiliaid fferm.

Symudodd Neil Baker yno o Lannon gyda'i wraig Debs a'u merched Elinor ac Anwen ym mis Chwefror y llynedd pan gafodd swydd fel garddwr yn Nhŷ Canna.

Roedd 350 o ymgeiswyr byd eang â'u bryd ar y cytundeb dwy flynedd ar Ynys Canna ond brwdfrydedd, profiad a gwybodaeth Neil a blesiodd y panel penodi o Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban.

Bywyd hamddenol

Wedi ymgartrefu ar yr ynys fechan sy'n bedair milltir o hyd ac yn un filltir o led, mae'r teulu wedi cael profiadau arbennig iawn.

Mae rhythm bywyd dipyn yn fwy hamddenol ar y warchodfa natur wrth iddynt gael eu hamgylchynu gan fywyd gwyllt yn hytrach na cheir ac adeiladau.

A gyda dim ond 20 o drigolion yn byw ar yr ynys does fawr o sŵn wrth y cymdogion chwaith.

Tywydd garw

Mae Canna yn wyneb y storm pan fo'r gwyntoedd yn codi uwchlaw'r môr. Mae bod mor agos at yr elfennau yn achosi problemau pellach i'w gnydau heb sôn am i ddiogelwch y tŷ. Dyw bywyd symlach yr ynys ddim yn fêl i gyd ac mae Neil yn fwy ymwybodol na neb o hyn.

"Dwi ddim wedi ffeindio paradwys yma o bell ffordd," dywed yn realistig. "Does dim ffasiwn beth â pharadwys. Mae'r natur ddynol yn gweud bo chi wastad yn chwilio am rywbeth arall."

Dolenni O Flaen Dy Lygaid:

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales