Neidio at y cynnwys

S4C

o flaen dy lygaid

O Flaen Dy Lygaid: Cysgodion Rhyfel

Bydd y rhaglen gyntaf mewn cyfres newydd o O Flaen Dy Lygaid yn dilyn hynt pedwar Cymro sydd yn aelodau o ail gatrawd y Cymry Brenhinol, ac yn rhoi cip ar eu bywydau personol.

Mae’r rhaglen yn dilyn y pedwar wrth iddyn nhw a’u catrawd hyfforddi yn eu canolfan yn Tidworth ac wrth iddynt ddod gartref i Gymru ar ddiwedd cyfnod yn rhyfela.

Mae’r Uwch-sarsiant Dai Rees, o Benygroes yn Sir Gaerfyrddin, wedi bod yn y fyddin ers ugain mlynedd bellach. Er ei fwynhad a’i falchder amlwg o’i safle yn y fyddin, mae Dai wedi gweld newid yn ystod ei ugain mlynedd, gyda mwy o gyfnodau o ymladd.

“Mae’r bois yn y fyddin fel brawd a ffrind achos bod ni’n byw ’da’n gilydd 24/7 a dyna beth sy’n anodd. Dyna beth sy’n gwneud y fyddin yn unique,” meddai.

O Harlech y daw Preifat Terry Francis. “Yn berffaith onest, dwi ddim yn gwybod y rheswm iawn pam mae ’na ryfel yn Irac,” cyfaddefa. “Ond rydyn ni jyst yn cario ymlaen. Job ydi o i fi, a fa’ma dwi’n cael fy nhalu, dwi’n mwynhau be’ dwi’n wneud...”

Teimlad amlwg iawn yw pryder teuluoedd y milwyr tra maen nhw dramor yn ymladd. Ond mae mam Terry yn cyfaddef iddi gael ei synnu gan deimlad arall. “Dwi wedi dychryn faint o falchder ro’n i’n ei deimlo,” meddai Teresa Francis. “Do’n i ddim yn rhagweld baswn i’n teimlo mor, mor falch o Terry. Mae’r ofn yna ond mae o’n gyfartal hefo’r balchder.”

Dolenni O Flaen Dy Lygaid:

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales