Yn y dyddiau a fu, i barlwr y cartref y byddai corff marw yn dod iddo, i’w arddangos mewn arch i bobol ddod i gydymdeimlo â’r teulu a dangos dyledus barch. Ond mae bywyd wedi newid llawer, ac yn sgìl hynny, yr arferion sydd ynghylch marwolaeth.
Bydd rhaglen Y Deyrnged Olaf yn edrych ar y bobl gyffredin sydd yn gweithio ym musnes angladdau, diwydiant ‘anweledig’ i raddau, lle mae gweithio yn y cefndir, a thu ôl i’r llenni mae’r unigolion fwyaf.
Bydd y rhaglen yn mynd i Lanbedr Pont Steffan lle mae cwmni Gwilym Price ei fab a’i ferched yn cael ei adnabod fel un o brif drefnwyr angladdau gorllewin Cymru. Mae hwn yn fusnes teuluol yng ngwir ystyr y gair gyda Gwilym ei hun, ei fab, ei ferch a’i ferch yng nghyfraith yn gweithio i’r cwmni.
Gyda llai a llai o bobol yn mynd i gapel neu eglwys, mae’r cwmni wedi ymateb i’r galw am leoliad digrefydd i gynnal gwasanaeth ac wedi adeiladu lle pwrpasol ar gyfer hyn.
Mae cynnydd yn y nifer o bobl sy’n chwilio am rywbeth gwahanol i angladd arferol hefyd, a bydd y rhaglen yn ymweld â Gwarchodfa Boduan, Pen Llŷn, sydd yn cynnig rhywbeth gwahanol iawn – arch o wiail a chladdu’r corff yn heddwch y goedwig.
“Dwi’n meddwl bod o’n siwtio’r ffordd dwi’n byw,” meddai Kelvin Jones sydd wedi dod i weld y lleoliad. “’Sa’m byd crefyddol yno i dwi ddim isho dim byd fel capel neu seremoni fawr. Dwi’n sylweddoli mae ’na gylch bywyd ac mae gen i ffydd yn hwnnw. Ac os fydd y ’nghorff i yn fan hyn fydda i’n mynd nôl at natur mewn ffordd naturiol a fydd ’na ddim byd yma mewn can mlynedd...”
Bydd y rhaglen hefyd yn edrych ar waith eneinio cyrff, gwaith amlosgfeydd, saer maen a thorwyr beddi gan gymryd cip real o fyd sy’n aml yn cael ei gyfri yn guddiedig.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales