Neidio at y cynnwys

S4C

o flaen dy lygaid

O Flaen Dy Lygaid: Tystion

Crefft dynion camera a sain yw eu bod yn galluogi’r gynulleidfa i fod yn llygad-dystion i rai o ddigwyddiadau mawr y byd. Yn ail raglen y gyfres bydd dau o gyn wŷr camera newyddion y BBC a fu’n arloesol o ran ffilmio ym maes newyddion teledu Cymraeg yn hel atgofion am rai o uchafbwyntiau eu gyrfaoedd hir a lliwgar.

Mae’n gip gafaelgar ar rai o storïau newyddion mwyaf Cymru dros y degawdau diwethaf, ac yn gip difyr ar brofiadau'r ochr arall i’r camera. Erbyn hyn mae Tomi Owen o Wdig, Abergwaun a Ken Davies o Gaerfyrddin yn eu saithdegau, ac wedi ymddeol yn dilyn gyrfaoedd hir a choeth a dyma’r tro cyntaf erioed iddyn nhw adrodd eu profiadau.

Yn gynnar iawn yn eu gyrfa, daeth un stori oedd i ysgwyd mwy na’r gymuned glos lle’r digwyddodd, stori aeth ar hyd a lled y byd, sef Aberfan. “Daeth y call mewn i fi wrth y newsroom, wrth Alan Prothero,” cofia Ken. “‘Ken,’ wedodd e, ‘Cer i Aberfan glou.’ Wedes i ‘Ble? Aberfan? Ble mae hynny?’”

“Aberfan yw’r stori fwya’ dwi erioed wedi bod i,” meddai Tomi Owen.

O Cayo Evans a’i ddilynwyr yn eu lifrai tywyll, buddugoliaeth Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin, llofruddiaeth Llanddewi Brefi, mae’r straeon y bu’r ddau yn gyfrifol am eu gwneud yn fyw yn amrywiol.

“Y brotest fwya’ rhyfeddol welais i erioed oedd yn Llangadog,” meddai Tomi yn cofio am brotest yn erbyn y cwotas llaeth ym 1984. “Cannoedd o heddlu ’na, cannoedd o ffermwyr. Oni’n ffilmio, mynd lawr y stryd y tu ôl i’r tancars mawr ’na, ac agoron nhw falf y tancars a gadael y llaeth mas o’n blaen ni dros y stryd i gyd. Mewn pum munud roedd y ffermwyr a’r heddlu yn ymladd ei gilydd.”

Streic y glowyr, Meibion Glyndŵr, cyffuriau Seal Bay, tân gwaith olew Texaco, trychineb y Sea Empress... mae dilyn gyrfa’r ddau fel edrych ar linyn hanes Cymru ers y 1960au. Ac mae’r boddhad ddaeth gyda’r blynyddoedd o waith ym maes newyddion yn amlwg.

“Os deuai ’nôl i fyw i’r byd hwn unwaith eto, “meddai Tomi, “fydda i’n rhoi mewn am y job, dyn camera.”

“Swn i’n dechre eto ’fory, swn i’n gwneud yr un peth ’to,” meddai Ken. “Wy ’di bod yn lwcus – lot o sbort gathon ni.”

Dolenni O Flaen Dy Lygaid:

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales