S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Ffeithiol

Ar gael nawr

  • Teulu'r Castell

    Teulu'r Castell

    Cyfres yn dilyn Marian a Rob Evans o Lansteffan, sydd wedi prynu ty fferm gyda thir, coedwig, a chastell Normanaidd. Yn y bennod olaf ac ar ol dwy flynedd o aros, mi gewn ni weld y briodas gyntaf swyddogol yn y castell. Hefyd, mae Ffion a Catrin yn cael blas ar gadw gwenyn, ac fe gewn ni weld beth yw cynlluniau Marian ar gyfer y dyfodol gyda'r fferm a'u busnesau.

  • Bethesda: Pobol y Chwarel

    Bethesda: Pobol y Chwarel

    Cyfres newydd sy'n mynd â ni i ganol cymuned chwarelyddol Bethesda - cymuned glos Gymreig. Yn y rhaglen olaf cawn gwrdd â Carrie Rimes - dynes busnes sy'n dechrau ar fenter newydd gyffrous yn yr ardal wrth iddi droi'r hen eglwys babyddol yn laethdy i wneud caws. Hefyd cawn weld trigolion Bethesda yn dod ynghyd am gêm o bingo ac yn trafod pwysigrwydd cymuned a'u gobeithion am y dyfodol.

  • Ar Brawf

    Ar Brawf

    Wrth gamu allan o carchar Y Berwyn am yr eildro, mae Martin yn gwneud addewid iddo ei hun na fydd yn mynd yno eto. Ond does gan Gabriel ddim yr un awydd ac agwedd tuag at newid. Steve ac Elin ydy'r Swyddogion Prawf sydd yn rheoli'r ddau yn y gymuned er mwyn ceisio'u hatal rhag troseddu eto, a chadw'r cyhoedd yn ddiogel.

  • Y 'Sgubor Flodau

    Y 'Sgubor Flodau

    Yn y bennod olaf o'r gyfres bydd y tîm yn creu trefniant i ddathlu 20 mlynedd o elusen Prostate Cymru.

  • Am Dro

    Am Dro

    Heddiw fydd Arfon yn mynd a'r criw am dro i Llandre. Yna taith o Gei Newydd i Gwmtydu gyda Morwenna cyn ei throi hi am Llanrug dan arweiniad Osian. Beth fydd yn diweddu yn Henllan. Dewch i ni fynd Am Dro.

  • Hen Dy Newydd

    Hen Dy Newydd

    Yn y bennod hon, mae ein 3 cynllunydd creadigol sef Gwyn Eiddior, Mandy Watkins a Carwyn Lloyd Jones yn wynebu'r her o adnewyddu 3 ardal mewn cartref i gwpwl ifanc yng Nghaerfyrddin. Ni fydd gan y cwpwl syniad sut hwyl geith y tri a gyda chyllidebau gwahanol fe fydd tipyn o sialens yn eu hwynebu- a fydd ein tîm adnewyddu yn llwyddo i drawsnewid hen dy yn HEN DY NEWYDD'

  • Grid

    Grid

    Y Dylunydd Rhi Dancey sy'n trafod yr heriau i sicrhau byd ffasiwn cynaliadwy.

  • Mwy o Ffeithiol

    Mwy o Ffeithiol

    Cliciwch isod i weld mwy o raglenni Ffeithiol S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?