Mae'r Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru, yn derbyn her newydd fel cyflwynydd teledu mewn cyfres tair pennod fydd yn edrych ar fywyd ac oes y teithiwr a'r clerigwr eithriadol o'r 12fed ganrif, Gerallt Gymro.
Yn Ôl Traed Gerallt Gymro bydd y Dr Morgan yn mynd ar drywydd dyn oedd eisiau ei swydd ef.
Mae'r gyfres yn darganfod sut y ceisiodd Gerallt i fod yn Archesgob cyntaf Cymru. Methodd yn ei ymdrech ond llwyddodd i ddod yn un o deithwyr enwocaf hanes ein gwlad.
Un o uchafbwyntiau'r gyfres yw cyfweliad rhwng y Dr Morgan a'r Dr Rowan Williams, Archesgob Caergaint, pan fyddan nhw'n asesu llwyddiannau a methiannau'r dyn uchelgeisiol, talentog a oedd yn Archddiacon Brycheiniog.
Mae'r Dr Morgan yn dilyn Gerallt o orllewin Cymru i'w gyfnod fel Archddiacon yn Llanddew, ger Aberhonddu ac yna i Rufain lle y ceisiodd gael ei ethol yn Archesgob Tyddewi a cheisio sefydlu'r ddinas gadeiriol honno'n gartref ar gyfer swydd newydd, Archesgob Cymru.
Yn un a raddiodd mewn Hanes, mae'r Dr Morgan wedi ymddiddori yn y dyn a geisiodd sefydlu Archesgob Cymru saith canrif cyn i'r swydd gael ei chreu yn 1920.
"Mae Gerallt yn gymeriad hynod gymhleth," meddai'r Dr Morgan. "Roedd e'n ddoctor sbin ar gyfer ei hunan ymhell cyn i'r term gael ei fathu, byth a hefyd yn portreadu ei hun yn ffafriol ac yn bwrw sen ar ei elynion. Mewn llawer o ffyrdd, roedd yn gymeriad annioddefol. Serch hynny, roedd yn un o eglwyswyr mawr ei oes a gynhyrchodd drysorau llenyddol sy'n bwrw golwg unigryw ar fywyd y Canol Oesoedd."
Roedd Gerallt yn deithiwr brwd ac egnïol, nid yn unig yng Nghymru ond ledled Ewrop hefyd. Mewn cyfnod pan oedd y rhan fwyaf o bererinion yn bodloni ar ymweld â Rhufain unwaith yn eu bywydau, fe ymwelodd Gerallt â Rhufain bedair gwaith mewn pum mlynedd. Mae'r gyfres hon yn ail greu siwrnai'r bererindod a wnaeth Gerallt o ynysoedd Prydain i Rufain.
Mae hanes ei deithiau yn aml yn debycach i'r hyn y gallwch ddarllen o fewn cloriau nofel James Bond nag ysgrif Lladin o'r Oesoedd Canol. Bu'n rhaid iddo adael Prydain yn gudd mewn cwch gan fod Archesgob Caergaint wedi ei wahardd rhag gadael y wlad, fe gysgodd dan gwch trwy'r nos i osgoi ysbiwyr yr Archesgob ochr arall y culfor yn Ffrainc a bu'n rhad iddo ddianc o Rufain am fod ganddo gymaint o ddyledion.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales