Dim ond 3 troedfedd 7 modfedd yw taldra James Lusted. Ond mae'r gŵr 23 oed o Landrillo yn Rhos â chalon fawr, a phersonoliaeth enfawr.
Yn rhaglen Byd Mawr y Dyn Bach yn y gyfres O'r Galon yr wythnos hon, cawn gyfle i fynd ar daith bersonol gyda James, gan ddarganfod o ble mae'n cael ei nerth a'i benderfyniad. Cawn glywed ganddo ef a'i deulu sut y mae wedi goresgyn pob her a ddaeth i'w ran yn sgil ei gyflwr meddygol. Ac mi gawn ei weld yn wynebu ei her ddiweddaraf - bod yn actor yn y pantomeim, Eira Wen.
Fe gafodd James a'i frawd mawr Philip eu geni gyda chyflwr o'r enw Diastrophic Dysplasia, sef math o Gorachedd sy'n anghyffredin iawn. Mae'r cyflwr yn effeithio ar oddeutu un ymhob 100,000 o fabanod. Yn dair blwydd oed, cafodd James lawdriniaeth fawr ar ei wddf er mwyn achub ei fywyd. Fe frwydrodd trwy'r holl boen ac erbyn hyn mae'n berson hyderus a phositif iawn.
"Mae Mam a Dad wastad wedi ein trin ni'r union yr un fath â phob plentyn arall, ac wedi ysgogi ni i fyw bywyd arferol ac i ymuno ymhob math o weithgareddau. Maen nhw'n wir wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr i mi," meddai James, sydd wedi cael ei ddewis i gario'r dortsh Olympaidd ar ei thaith o amgylch Cymru ym mis Mai.
"Dwi wedi cael fy magu i roi cynnig ar bob dim," meddai James. "Os fedra i ddim ei wneud o, wel, dyna fo, tydi hi ddim yn ddiwedd y byd." Mae'n mwynhau chwarae badminton, ac mae'n cyfaddef ei fod yn berson cystadleuol iawn sydd wedi ennill Personoliaeth Chwaraeon Ifanc Cymdeithas Chwaraeon y Corachod dair gwaith o'r bron. Mae hefyd yn chwarae pêl-droed a Boccia, gêm debyg i'r boules Ffrengig.
Mae James yn berson crefyddol, ac mae'n credu ei fod wedi cael ei roi ar y byd hwn i annog eraill i gyflawni eu potensial. Mae wedi dilyn cwrs arweinyddiaeth bugeilio mewn coleg yn Awstralia ac mae'n gobeithio y bydd yn gallu dilyn gyrfa fel pregethwr a siaradwr cymhelliant.
"Dyma pam dwi ar y byd hwn - i siarad am fy mhrofiadau," meddai.
"Fy motto i yw caru Duw, caru bywyd a charu pobl. Dim ond unwaith ydan ni ar y byd hwn. Mae'n rhaid byw'r freuddwyd."