Mae Tudur Phillips yn gyflwynydd poblogaidd ar S4C sydd bob amser yn fywiog ac yn llawn egni ar Stwnsh - gwasanaeth plant a phobl ifanc y Sianel.
Ond flwyddyn yn ôl, fe wnaeth Tudur ddarganfod ei fod yn dioddef o Ankylosing Spondylitis, afiechyd hirdymor sy'n effeithio ar yr asgwrn cefn ac sy'n gallu achosi anabledd dwys.
Yn y rhifyn diweddaraf o'r gyfres O'r Galon, nos Fercher, 25 Ebrill, cawn ddilyn siwrnai'r cyflwynydd ifanc a'r clocsiwr talentog o Fryn Iwan ger Caerfyrddin wrth iddo ddarganfod mwy am y daith hir a phoenus sydd o'i flaen.
Meddai Tudur, sy'n 25 oed, "Rwy'n teimlo ei fod e'n bwysig iawn cadw'n heini. Roedd yn rhan fawr o'm mywyd i. Pan ges i'r swydd yn cyflwyno teledu plant, ro'n i'n joio mas draw, yn enwedig cael cyfle i wthio fy nghorff a chael profi chwaraeon gwahanol."
Mae A.S. yn tueddu i daro pobl ifanc rhwng 15 a 30 oed. Mae'n gallu achosi i'r esgyrn ymuno ac i'r cefn grymu. Ond mae hefyd yn gallu bod yn glefyd anweledig yn enwedig ar y cychwyn. Mae lefel y poen yn amrywio'n fawr - un diwrnod mae'n bosib loncian yn gyfforddus a'r diwrnod nesaf mae'n amhosib symud.
"Pan wnes i ffeindio mas bod Ankylosing Spondylitis 'da fi, wnaeth e newid popeth. Flwyddyn yn ôl, ro'n i fel pob bachgen arall yn ei ugeiniau cynnar, yn gallu gwneud unrhyw beth; yn cymryd rhan ym mhob math o chwaraeon a gwneud popeth ro'n i moyn gwneud a joio bob munud. Nawr rwy' wedi gorfod stopio a meddwl am fy mywyd ac am y dyfodol."
Er nad oes gwellhad i'r clefyd ar hyn o bryd, gyda chymorth teulu a meddygon, mae Tudur yn parhau yn bositif iawn wrth edrych i'r dyfodol.
Dr Ceril Rhys-Dillon yw un o'r Ymgynghorwyr Gwynegon Gwynegol sydd wedi bod yn trin Tudur dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae A.S. yn effeithio ar dros 200,000 o bobl ym Mhrydain, gyda rhwng 4,000 a 5,000 o'r rheiny yng Nghymru," eglura. "Ar hyn o bryd, does gyda ni ddim triniaethau sy'n medru diddymu'r clefyd ond rwy'n ffyddiog bydd gyda ni yn y dyfodol. Mae yna driniaethau newydd - triniaethau Anti TNF sy'n medru helpu i wella safon bywyd a lleihau symptomau poen o ddydd i ddydd, ond mae sgìl effeithiau a chost yn ffactorau i’w hystyried. Rydym hefyd yn cynnig ffisiotherapi, tabledi yn erbyn y poen, tabledi gwrthlidiol a phigiadau steroid mewn i'r cymalau a chymorth wrth gadw'n heini."
Tudur yw'r hynaf o dri phlentyn. Mae genyn A.S yn gallu cael ei basio lawr drwy deuluoedd, ac mae chwaer Tudur, Cerian, hefyd yn dioddef o'r clefyd. Yn O'r Galon - Tudur Phillips: Yn y Gwaed, bydd Lleucu, chwaer ifanca'r teulu, yn darganfod a yw hi'n cario'r genyn diffygiol fydd yn codi'r posibilrwydd y bydd hithau hefyd yn datblygu A.S yn y dyfodol.