Dyma bortread cofiadwy o Gymraes a ddaeth yn enwog fel un a oedd yn arloesi yn y maes trefnu a gosod blodau.
Mae Iona Trevor Jones bellach yn 85 oed ac yn byw gyda'i gŵr Trevor ym mhentref Cwmann yn sir Gaerfyrddin, ond fel y gwelwn yn O'r Galon: Brenhines y Blodau mae ei dawn fel trefnydd blodau wedi mynd â hi i bob cwr o'r byd.
Yn wir, bu Iona Trevor Jones yn flaenllaw fel un o sylfaenwr NAFAS, Cymdeithas Gosodwyr Blodau Prydain ac am boblogeiddio'r grefft o drefnu blodau trwy raglenni teledu a'i llyfrau - a hynny heb unrhyw hyfforddiant ffurfiol.
Fe ddatblygodd ddiddordeb mewn trefnu blodau yn y 1950au pam oedd hi'n wraig fferm, wedi cyfnod o iselder ar ôl genedigaeth ei hail blentyn. Yn ystod y dyddiau tywyll yma, fe wnaeth ffrind i'r teulu ei pherswadio i arddangos ei blodau mewn sioe yng Nghroesoswallt. Fe enillodd hi wobr yn y gystadleuaeth honno ac fe newidiodd hynny ei bywyd am byth.
Roedd hi'n trefnu blodau ar gyfer yr enwog a'r cyfoethog ac un o'i hanesion difyrra' oedd trefnu'r blodau ar gyfer Gwledd Arwisgo Tywysog Cymru ym Mhlas Glynllifon ger Caernarfon yn 1969.
"Roedd rhaid gwneud apêl am Gennin Pedr ar gyfer yr arddangosfa flodau ar ôl i'r blodau fethu cyrraedd o Kenya. Fe ddaeth Cennin Pedr o Seland Newydd ar awyren a chyrraedd Glynllifon jest mewn pryd ar ddiwrnod yr Arwisgo!" cofia Iona, gan ychwanegu bod ei gwisg hi ar gyfer y wledd yn debyg iawn i wisg y frenhines ei hun!
Yn y rhaglen, mae hi hefyd yn hel atgofion melys am ei dyddiau yn byw ym Mhlas Trelydan, Y Trallwng ym Mhowys ddaeth yn enwog am eu nosweithiau llawen, ac am eu gwaith yn cyflwyno ei chrefft ar deledu a radio ac yn ysgrifennu llyfrau.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales