Mi wnaeth marwolaeth ei chefnder oedd yn dioddef gyda'r cyflwr epilepsi ysgogi'r cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu Medwen Roberts i geisio codi proffil y cyflwr, yn enwedig ymysg yr ifanc. Ac mae'r rhaglen Annwyl Bawb yn y gyfres O'r Galon yn rhan o'i hymgyrch.
"Tydi epilepsi ddim yn cael llawer o sylw, ac yn gyffredinol, mae'r rhai sy'n dioddef o'r cyflwr yn gyndyn i siarad amdano," meddai Medwen, sy'n byw yn Rhuthun. "Y cwbl maen nhw eisiau ei wneud yw cario 'mlaen gyda'u bywydau.
"Mae'n gyflwr sy'n aml yn taro pobl ifanc. Mae llawer o'r rhai sy'n dioddef yn eu harddegau. Mae ymchwil yn dangos fod gan bobl ifanc ofn datgelu bod ganddyn nhw epilepsi oherwydd dydyn nhw ddim am gael eu gweld yn wahanol, ac maen nhw'n ofn colli ffrindiau. Maen nhw hefyd yn ofn gwneud rhywbeth sy'n creu embaras pan maen nhw'n cael trawiad."
Ond yn y rhaglen Annwyl Bawb cawn ddilyn pump o bobl ifanc sy'n penderfynu rhannu eu profiad o'r cyflwr â'i gilydd. Ar y dechrau maen nhw'n cysylltu â'i gilydd trwy greu tudalen Facebook, ond yna, yn ddiweddarach, maen nhw'n cyfarfod wyneb yn wyneb i fwynhau cwmni ei gilydd a chael sgwrs.
"Mae cyfarfod ei gilydd fel hyn yn rhywbeth eitha' anarferol gan fod y dioddefwyr fel arfer yn gyndyn o gydnabod y cyflwr," meddai Medwen. "Tydi o ddim yn beth hawdd i'w wneud. Dwi'n meddwl eu bod nhw wedi bod yn ddewr iawn. Maen nhw'n griw grêt," ychwanega.
Y pump sy'n dod at ei gilydd yw Catrin Mair Davies o Chwilog, Rhodri Siôn Foxhall o Dalysarn, Dyffryn Nantlle, Diane Rowlands o Fethel ger Caernarfon, Eirian Rowlands o Gaergeiliog, Ynys Môn a Steffan Owen o Fae Colwyn.
Person allweddol arall sy'n ymddangos yn y rhaglen yw'r unig nyrs sy'n arbenigo mewn epilepsi yng Ngogledd Cymru i rai dros 16 oed, Sheila Lewis. "Mae Sheila yn berson anhygoel," meddai Medwen. "Ac mae ei pherthynas â'r bobl ifanc yn bwysig iddyn nhw. Mae ar gael iddyn nhw 24 awr y dydd, ac fel y mae Sheila ei hun yn dweud, mae'n llawer mwy na swydd."
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales