Beth sy'n ysgogi mam plentyn ifanc i weithio mewn maes lle mae sefyllfa beryglus yn cael ei hystyried yn normal?
Dyna'r cwestiwn sy'n cael ei ofyn yn y rhaglen ddogfen Ble mae Mam? Mae'r rhaglen, sy'n rhan o'r gyfres O'r Galon, yn dilyn dwy ferch wrth eu gwaith bob dydd.
Mae PC Nicola Wilson, o Landysul, yn fam i ddau o blant ifanc, ac yn un o ddwy Swyddog Traffig fenywaidd yn Heddlu Dyfed Powys. Yn ddyddiol, mae'n dilyn ceir sydd wedi cael eu dwyn ac sy'n cael eu gyrru ar gyflymder arbennig o uchel ar hyd yr M4.
Mae'n rhaid iddi hefyd ddelio â damweiniau erchyll, a gyrwyr sydd ddim am gael eu dal. Y damweiniau sydd yn ei phoeni fwyaf.
"Beth wy'n ofni'n fwy na dim yw dod ar draws corff plentyn wedi marw mewn car ar ei ochr," meddai Nicola.
Fel nyrs a milwr, treuliodd Capten Andrea Davies-Tuthill o Ferthyr Tudful bedwar mis yn gweithio yng Nghamp Bastion yn Afghanistan, tra roedd ei merched gartre' yn saff.
Oherwydd Ymgyrch Panther's Claw, roedd llif cyson o filwyr yn cael eu cludo i'r theatr ysbyty o theatr rhyfel Helmand. Roedd yn rhaid iddi ddelio ag anafiadau erchyll mewn awyrgylch prysur, llawn tensiwn.
Yn y rhaglen hon, ry'n ni'n cyfarfod y ddwy a'u teuluoedd ac yn clywed sut mae swyddi llawn sialens yn rhoi boddhad. Wrth yrru ar hyd ffyrdd Sir Gaerfyrddin drwy'r eira at ddigwyddiad bygythiol, mae Nicola yn bendant o un peth.
"Os wy'n hapus yn fy ngwaith, rwy'n hapus gartre." Mae hi'n ei gweld ei hun fel role model arbennig i'w phlant - yn enwedig ei merch.
Rydyn ni hefyd yn cael y fraint o rannu'r dagrau o hapusrwydd pan ddaw Andrea adre o'r rhyfel. Er mor ddirdynnol y profiad, roedd yn un pwysig iawn iddi ac yn un sydd wedi cyfoethogi ei bywyd.
"Dwi'n falch iawn 'mod i wedi cael cyfle i helpu'r milwyr a phobl Afghanistan." Ac mae ei merched yn hynod o browd o'u mam.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales