A ninnau ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol y Cariadon, Dydd Sant Ffolant, fe fydd y ddogfen O'r Galon yn gofyn, 'Beth yw cyfrinach priodas hapus?'
Mewn oes lle mae canran lai o bobl yn dewis priodi nag ar unrhyw adeg arall yn y can mlynedd diwethaf, bydd O'r Galon: Cymar Oes yn cymharu straeon tri chwpl priod o wahanol ardaloedd o Gymru.
Mae Noah a Nansi Miles yn briod ers bron 67 mlynedd. Mae'r cwpl bellach yn eu nawdegau, ond mae eu cariad mor gryf ag erioed. Maen nhw'n byw ym mhentre' Garnswllt ger Rhydaman ac, ymysg pethau eraill, yn hel atgofion am fynd ar eu mis mêl i Aberystwyth, a hynny 'nôl ym 1944.
Fe wnaeth Allan a Brenda Jones o Lanllyfni, Dyffryn Nantlle, Gwynedd gyfarfod mewn clwb nos chwarter canrif yn ôl, a syrthio mewn cariad yn syth. Mae hon yn enghraifft o briodas gref - nid oedd modd rhagweld yr holl bontydd fu'n rhaid eu croesi yn y blynyddoedd oedd i ddilyn.
Bu bron i Brenda golli ei bywyd wrth roi genedigaeth i'w hail fab, Carl, ac yn 2009, cafodd Allan ddamwain ddifrifol wrth yrru lori i Lundain.
Cyfarfod yn y gwaith tra'n byw yng Nghaerdydd wnaeth Rhys a Rhian Jones, cyn penderfynu treulio gweddill eu bywydau gyda'i gilydd bedair blynedd yn ddiweddarach. Does ond ychydig fisoedd ers i'r cwpl ifanc briodi ond gyda Rhys yn gweithio fel heddwas, mae ambell beth yn chwarae ar feddwl ei wraig.
Wedi symud i ymgartrefu yn ardal Llanrwst yn y gogledd oherwydd gyrfa Rhys, mae'r ddau yn cydnabod fod cyfaddawdu yn rhan annatod o briodas. Ac mae teithio'r holl ffordd i Rufain ar drên gyda pherson sy'n ofn hedfan yn enghraifft dda o hynny!
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales