Neidio at y cynnwys

S4C

O'r galon

O'r Galon: Cynfilwyr Corea

Mae dau ffrind oedrannus o Fethesda, a fu’n rhan o Lu'r Cenhedloedd Unedig yn Rhyfel Corea yn y Pumdegau, wedi dychwelyd i’r wlad dros hanner canrif yn ddiweddarach.

Dim ond 19 oed oedd John Davies o Rachub ac Owen Williams o Fethesda pan gawsant eu hanfon i Gorea ym 1952 fel rhan o’u gwasanaeth gorfodol yn y fyddin. Dilyn prentisiaeth fel cigydd oedd John ar y pryd, tra roedd Owen yn fyfyriwr mewn coleg amaethyddol ger Pwllheli, â’i fryd ar fod yn filfeddyg.

Anfonwyd John i faes y gad tra y bu Owen yn gweithio mewn swyddfa yn Siapan fel swyddog prisio.

Y tro hwn mae’r ddau, sydd bellach yn 74 oed, yn ymweld â’r llinell flaen, a hefyd ag un o’r amgueddfeydd milwrol mwyaf yn y byd.

Roedd John wedi rhyfeddu ar y newid yn Ne Corea. “Mi roeddan ni’n byw mewn tyllau yn y ddaear, gyda’r gynnau mawr yn tanio trostan ni. Roedd hi’n beryg bywyd yn y nos, gyda’r gelyn ymhobman fel morgrug. Heddiw, mae’r lle yma fel nefoedd, mae’n ddistaw braf.”

Ond roedd e hefyd wedi ei siomi nad oedd unrhyw sôn am gyfraniad y Cymry a Llu'r Cenhedloedd Unedig i’r Rhyfel, rhyfel sy’n dechnegol yn parhau. Cafwyd cadoediad ym 1953 ond mae De a Gogledd Korea yn elynion hyd heddiw.

Dolenni O'r Galon:

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales