Mae'r gyfres hon yn dwyn y gwyliwr i ganol profiadau personol iawn. Yn Y Ddamwain Rygbi mae Bryan 'Yogi' Davies o'r Bala, ei wraig a'i ffrindiau, yn trafod effaith anaf trasig a ddioddefodd ar y cae rygbi wrth chwarae ei gêm olaf un i Glwb Rygbi'r Bala.
Ar ôl blynyddoedd o wasanaeth diflino i'r Clwb, fel chwaraewr a hyfforddwr, roedd Bryan wedi cyhoeddi yn yr ystafell newid cyn gêm olaf y tîm cyntaf yn nhymor 2006-2007 ei fod wedi penderfynu ymddeol fel chwaraewr ac yntau yn 49 oed.
Fe'i gwnaethpwyd yn gapten am y diwrnod ac arweiniodd ei dîm allan ar y cae yn llawn balchder. Ond yn gynnar iawn yn y gêm, chwalodd y sgrym gyntaf, ac fe anafwyd Bryan yn ddifrifol. Mae wedi ei barlysu, ac yn derbyn gofal arbenigol mewn ysbyty yn Southport, ger Lerpwl. Mae'r ychydig eiliadau hynny ar y cae rygbi wedi newid ei fywyd yntau, ei wraig, Sue, a'u plant Ilan a Teleri am byth.
Ffilmiwyd y rhaglen dros gyfnod o rai misoedd, ac mae hefyd yn cynnwys uchafbwyntiau taith feicio go arbennig a wnaeth y digrifwr a'r cyflwynydd Noson Lawen, a ffrind i Bryan, Dilwyn Morgan. Yr haf diwethaf mi feiciodd Dilwyn o Land's End i John O'Groats er mwyn hel arian ar gyfer Cronfa Apêl a sefydlwyd yn yr ardal i gynorthwyo Bryan a'i deulu. Mae'r gymuned wedi llwyddo i godi £100,000 ar gyfer y Gronfa mewn chwe mis.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales