Neidio at y cynnwys

S4C

O'r galon

O'r Galon: Frank Letch

Clamp o gymeriad sy'n ysbrydoliaeth

Mae cyfres newydd o raglenni O'r Galon yn dechrau'r wythnos hon gyda rhaglen bortread o glamp o gymeriad sydd wedi ysbrydoli llawer.

Mae Frank Letch yn athro wedi ymddeol sy'n dipyn o ieithydd ac sydd â phump o blant. Mae'n arlunydd talentog ac yn faer tref fechan Crediton yn Nyfnaint. Mae hefyd yn berson a gafodd ei eni heb freichiau. Ond nid yw wedi gadael i'w anabledd lywio ei fywyd.

Person unigryw

Yn y rhaglen ddogfen, Frank Letch, cawn ddilyn Frank, sy'n 65 oed ac a gafodd ei fagu yn nwyrain Llundain, ar ei daith yn ôl i ardal y Bala lle bu'n athro Ffrangeg am bron i 20 mlynedd. Symudodd oddi yno yng nghanol y 1990au yn dilyn marwolaeth ei wraig gyntaf, Helen. Bu'n byw yn yr Alban am gyfnod cyn setlo yn Nyfnaint.

Mae Frank yn berson unigryw, a chynhyrchwyd rhaglen ddogfen arobryn amdano ym 1978 gan y diweddar Gwyn Erfyl. Cawn weld pytiau o'r rhaglen honno yn y rhaglen hon.

Roedd Frank wrth ei fodd yn ail gyfarfod hen ffrindiau a chyn-ddisgyblion iddo yn yr ardal. "Mae Stryd Fawr y Bala wedi newid lot, ond tydi'r bobol ddim," meddai gyda gwên.

Profiad emosiynol

Er ei fod wedi gadael y Bala mewn cyfnod trist yn ei fywyd ar ôl marwolaeth Helen, a hithau yn ddim ond 41 oed, nid yw Frank wedi chwerwi.

"Rhaid meddwl am heddiw ac yfory, dim ddoe. Gallwch chi wneud dim byd am ddoe," meddai.

Yn awr fod ei blant wedi tyfu i fyny, dywed Frank ei fod yn gallu ymlacio "a bod yn fi fy hun," yng nghwmni ei wraig Natalia, sy'n dod o Rwsia'n wreiddiol, a briododd yn 2008.

"Dwi'n credu mewn paradwys," meddai. "Wrth golli Helen, mi wnes i golli paradwys, ond dwi'n teimlo fy mod wedi ei ffeindio unwaith eto. Dwi'n teimlo'n hapus iawn bob bore, ac yn edrych ymlaen at y dydd o'm blaen i."

  • Brenhines y Blodau
  • Cymar Oes
  • Y Dyn tu ôl i'r Llun
  • Golwg Newydd
  • Annwyl Bawb
  • Newid Plwyf O Irac i Landudoch
  • © 2012 S4C
    O Gymru / Made in Wales