Bydd y rhaglen ddogfen hon yn agor y llenni ar fyd y deillion wrth adrodd stori bersonol hynod iawn.
Yn y rhaglen O'r Galon: Golwg Newydd, cawn bortread gafaelgar o Simon Cavendish - dyn o Wlad Pwyl a fu'n ddall ers oedd yn bedair oed ond sydd wedi llwyddo i ddilyn bywyd annibynnol fel siaradwr Cymraeg rhugl yn byw yng Nghymru.
Cafodd Simon, 53, ei eni yng ngogledd orllewin hen wlad gomiwnyddol Gwlad Pwyl ym mhumdegau'r ganrif ddiwethaf - a dyna le bu'n byw tan iddo ddarganfod y Gymraeg, codi ei bac, symud i Gymru a chreu hunaniaeth newydd.
Yng Nghymru, fe newidiodd ei enw a llwyddo i ennill ysgoloriaeth a gradd yn y Gymraeg. Bellach mae'n ennill bywoliaeth drwy addasu llyfrau Cymraeg i'r Braille, un o ddau yn unig sy'n gwneud hynny yng Nghymru, tylino cyrff a darlithio i Gynghorau Sir ar oblygiadau pellgyrhaeddol Deddf Anabledd 1995. Fe fydd y rhaglen yn dilyn Simon yn ei gartref yn Aberteifi lle bu'n byw ers oddeutu blwyddyn ac wrth ei waith yn Llambed, Aberteifi ac Abertawe.
Mae O'r Galon: Golwg Newydd yn anad dim yn bortread cofiadwy o ddyn sydd wedi llwyddo i gael bywyd cyflawn, annibynnol er ei fod yn ddall ac er iddo gael magwraeth deuluol galed o dan ormes tlodi yng Ngwlad Pwyl.
"Roeddwn mor falch o'r cyfle i gael mynegi fy niolchgarwch i bobl Cymru am roi cyfle imi fyw bywyd annibynnol yma. Heb gefnogaeth cymunedau yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf, ni fyddai wedi bod yn bosib imi gael bywyd cyflawn, bywyd heb drais, bywyd deallusol, bywyd ysbrydol."
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales