Yn y rhaglen ddogfen Ar Brawf ar S4C yr wythnos hon cawn gyfle unigryw i brofi byd y swyddog prawf yn ardal Llanelli.
Mae'r rhaglen, sy'n rhan o gyfres O'r Galon, yn dilyn y swyddog prawf Lowri Thomas dros gyfnod o wythnos. Dyma'r tro cyntaf i raglen o'r fath gael ei gwneud yng Nghymru am y Gwasanaeth Prawf.
Mae tuedd i glywed am swyddogion prawf pan fydd camgymeriadau'n digwydd ond yma, mae cyfle i weld eu gwaith bob dydd.
Mae Lowri, sy'n 25 oed, wedi bod yn gweithio i Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys am dair blynedd. Mae'n un o dîm o swyddogion sy'n delio â phob math o faterion, gan gynnwys y camddefnydd o alcohol, gweithwyr rhyw, trais a'r camddefnydd o gyffuriau.
Un o'i dyletswyddau yw goruchwylio'r rhai sydd wedi troseddu ac sydd wedi cael eu dedfrydu i weithio yn y gymuned, fel Anthony, a welwn yn y rhaglen, sydd yn un o 30 o droseddwyr yn ei gofal.
Cawn weld Lowri wrth ei gwaith mewn Canolfan Ddydd arbennig ar gyfer troseddwyr sydd â phroblemau alcohol a chyffuriau.
"Ry'n ni'n ceisio newid eu ffordd o fyw, a choncro eu dibyniaeth," esbonia Lowri. "Mae'n waith heriol sy'n gallu bod yn eitha chaotic ambell waith oherwydd methiant y rhai sy'n ddibynnol i ganolbwyntio am gyfnodau hir."
Agwedd arall ar waith Lowri yw ymweld â throseddwyr yn y carchar er mwyn eu paratoi ar gyfer y diwrnod y cânt eu rhyddhau. Mae'n teithio'n gyson i garchardai yng Nghaerdydd, Casnewydd a thros y ffin yn Lloegr.
Mae'n cyfaddef fod y swydd yn gallu bod yn ingol ar adegau. "Ond mae'n rhaid bod â ffydd fod pobl yn gallu newid, gyda'r cymorth cywir."
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales