Mae'r gyfres ddogfen O'r Galon yn dychwelyd gyda phortread gafaelgar o'r offeiriad, Y Parch Aled Huw Thomas wrth iddo adael ei waith fel padre yn y fyddin i fod yn ficer plwyf yng ngorllewin Cymru.
Mae O'r Galon: Newid Plwyf O Irac i Landudoch yn dilyn Aled o'r diwrnod y gadawodd y fyddin Awst diwethaf ar ôl 22 o flynyddoedd o wasanaeth i'w fisoedd cyntaf fel ficer plwyf yn Llandudoch, gogledd Sir Benfro.
Mewn rhaglen yn llawn angerdd, gonestrwydd ac emosiwn, mae Aled a'i wraig Carys yn sôn am y profiadau dirdynnol a gafodd fel caplan byddin mewn lleoliadau peryglus yng Ngogledd Iwerddon ac Irac a sut maen nhw wedi addasu i fywyd mwy heddychlon ar 'civvy street'.
"Wy wedi bod yn gaplan yn ystod y Rhyfel Oer, Rhyfel Cyntaf y Gwlff, rhyfeloedd y Balkans, Gogledd Iwerddon ac yn fwy diweddar, yn Irac. Dyw bod mewn rhyfel ddim yn rhywbeth mae dyn yn ei fwynhau ond mae'n brofiad sŵn i ddim wedi newid am ddim byd arall. Dwi wedi gweld ochr hagr i fywyd a gorfod wynebu bod marwolaeth ddim yn unig yn bosib ond yn sicr i filwyr mewn ambell ddigwyddiad, felly mae fy ffydd wedi newid a chryfhau," meddai'r Parchedig Aled Huw Thomas.
Mae Aled, a gafodd ei eni a'i fagu yng Nghaerdydd, yn ail ymweld â Derry a Portadown yng Ngogledd Iwerddon lle bu'n gweithio fel caplan yn y 1990au. Yno mae'n cofio'r casineb, y tensiynau a'r trais rhwng y cymunedau Protestannaidd a Chatholig a welodd gyda'i lygaid ei hun a sut oedd yntau fel Cymro yn cydymdeimlo gyda'r ddwy ochr.
Yn y rhaglen, mae Aled a Carys yn sôn am yr her o fagu teulu - mae ganddynt ddau o blant, Elin Haf, 26 ac Eirig Aled, 23 - mewn cyfnod pan wnaethon nhw symud dros 20 o weithiau.
Ac wrth ei ddilyn yn ei blwyf newydd, rydyn ni'n gweld balchder Alun o wasanaethu plwyf yng Nghymru. "Mae'n brofiad rhyfedd achos wy wedi ymddeol unwaith ac mae hyn bron fel ail ddechrau... Ond roedd y ddau ohonom yn teimlo ein bod ishe rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymdogaeth yng Nghymru."
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales