e S4C

Neidio at y cynnwys

S4C

O'r galon

O'r Galon: O Fam i Ferch

Mae cyfres newydd o'r rhaglenni dogfen O'r Galon yn dechrau gyda thaith bersonol ac emosiynol iawn gan yr actores a'r gyflwynwraig Ffion Dafis.

Ddeng mlynedd yn ôl bu farw mam Ffion o gancr y fron. Pedair blynedd yn ddiweddarach mi wnaeth Ffion ddarganfod lwmp ar ei bron hithau. Yn ffodus, doedd lwmp Ffion ddim yn beryglus ond roedd yr ofn ganddi y gallai hithau ddatblygu'r un cancr â'i mam.

Eglura Ffion, "Mae prawf arbennig ar gael erbyn hyn sy'n chwilio am ennyn diffygiol sy'n cael ei drosglwyddo o fewn teulu. Y mae'n brawf sydd ag oblygiadau niferus iddo ac mae'r effeithiau corfforol a seicolegol yn enfawr."

Yn ystod y rhaglen mae Ffion yn gofyn cyngor ffrindiau a theulu, yn ogystal รข chyfarfod dwy chwaer ddewr o Wynedd, Gweno Williams o Bontllyfni ac Eirian Rees o Fethesda Bach.

Meddai Lowri Gwilym, Golygydd Cynnwys Ffeithiol S4C, "Mae hon yn rhaglen bwerus iawn. Mae Ffion, y cyflwynydd teledu, yn ymchwilio'r pwnc ac yn holi cwestiynau, ond hefyd mae Ffion, y person preifat, yn rhannu teimladau o bryder, cyfrifoldeb a cholled am ei mam. Ac mi rydyn ni'n ddiolchgar iawn i'r teuluoedd eraill a gymerodd ran yn y rhaglen am eu parodrwydd i rannu profiadau."

Dolenni O'r Galon:

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales