Neidio at y cynnwys

S4C

O'r galon

O'r Galon: Y Trên i Ravensbrück

Profiad dirdynnol teulu o Gymru wrth gofio dioddefaint y rhyfel

Mae'r gyfres ddogfen O'r Galon yn dychwelyd nos Fawrth, 26 Ionawr gyda rhaglen ddogfen rymus sy'n dilyn teulu o Gymru i'r Almaen i ddarganfod mwy am ddioddefaint erchyll eu perthnasau yno yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ar drothwy Diwrnod Cofio'r Holocost, fe fydd O'r Galon: Y Trên i Ravensbrück yn portreadu taith emosiynol Heini Gruffudd, ei ferch Nona Gruffudd-Evans a'i ddwy wyres Gwenllian, 8, a Greta, 7, i'r Almaen i ddeall mwy am yr hyn ddigwyddodd i'r Iddewon o dan ormes y Natsïaid.

Maen nhw'n mynd ar daith ddirdynnol i wersyll-garchar Ravensbrück yng ngogledd ddwyrain yr Almaen lle llofruddiwyd mam-gu Heini - Käthe Bosse - 65 mlynedd yn ôl. Mae camerâu cwmni Rondo hefyd yn eu dilyn i ddinas frodorol y teulu, Lutherstadt Wittenberg lle mae trigolion y dref newydd osod cofeb fach ar y pafin er cof amdani. Byddan nhw hefyd yn ymweld â rhai o gofebion Iddewig y brifddinas Berlin yng nghwmni perthnasau.

Mae Heini Gruffudd yn awdur, ymgyrchydd ac ymgynghorydd iaith amlwg - ond nid pawb sy'n gwybod am hanes trasig teulu ei fam yn Yr Almaen.

Fe ddaeth diweddar fam Heini, Kate Bosse-Griffiths (1910-1998), draw i fyw ym Mhrydain cyn yr Ail Ryfel Byd. Ei bwriad oedd dianc rhag erledigaeth a rhagfarn y Natsïaid lle roedd eisoes wedi colli ei swydd yn Amgueddfa Eifftioleg Berlin oherwydd ei thras Iddewig. Yn Rhydychen, a hithau'n academydd Eifftoleg disglair, cyfarfu â'r Cymro J Gwyn Griffiths, cwympo mewn cariad, priodi a symud i Gymru lle y magon nhw ddau o blant yn Gymry pybyr, Heini a Robat, perchennog gwasg y Lolfa.

Yn ôl yn Yr Almaen, roedd bywyd yn anodd i'w rhieni hi, ei dau frawd, Günther a Fritz, a'i chwaer Dorothee gan fod tras Iddewig gan Käthe Bosse, eu mam. Er bod y teulu wedi gwneud pob ymdrech i ddilyn trefn Almaenig y dydd, ac yn Gristnogion yn yr Eglwys Lutheraidd yn y dref ers rhyw ddwy genhedlaeth, ar ôl ymdrech y Cadfridog Stauffenberg i saethu Hitler yng Ngorffennaf 1944, fe drodd y Natsïaid yn fwyfwy i dargedu Almaenwyr o dras Iddewig.

Y flwyddyn honno arestiwyd y pum aelod o'r teulu Bosse oedd yn dal yn Wittenberg a'u hanfon i wahanol wersylloedd ac mae sut y goroesodd brodyr a chwaer Kate Bosse-Griffiths yn destun ffilm ynddo'i hun. Goroesodd tad-cu Heini ond bu farw ychydig o flynyddoedd ar ôl y rhyfel, o dorcalon yn bennaf, yn ôl Heini.

Meddai Heini Gruffudd, "Dwi wedi bod yn Ravensbrück nifer o weithiau a chymaint y mae rhywun yn trio caledu, mae'n brofiad uffernol bob tro. Dydyn ni ddim yn gwybod yn iawn hyd heddiw beth oedd achos marwolaeth fy mam-gu. Doedd fy mam ddim yn licio sôn am yr hyn ddigwyddodd yn ystod y rhyfel ac roedd nifer o'n perthnasau ni'n cario baich trwm yn dawel. Mae'n anodd credu yn ein hoes lewyrchus, gyfforddus ni y gall pethau fel hyn ddigwydd ond y neges i mi yw bod wastad peryg o ddilyn unrhyw wleidydd yn ddi-gwestiwn i ryfel."

  • Brenhines y Blodau
  • Cymar Oes
  • Y Dyn tu ôl i'r Llun
  • Golwg Newydd
  • Annwyl Bawb
  • Newid Plwyf O Irac i Landudoch
  • © 2012 S4C
    O Gymru / Made in Wales