Neidio at y cynnwys

S4C

Owen Edwards

Owen Edwards

Rhaglen deyrnged arbennig i Owen Edwards, gŵr a ddisgrifiwyd fel 'cawr yn y maes darlledu' a Chyfarwyddwr cyntaf S4C. Yn ei dilyn, bydd un o raglenni bythgofiadwy Owen Edwards o'r 1980au cynnar Plant y Paith: Pobl Cwmhyfryd.

Mae'r rhaglen yn olrhain hanes bywyd y gŵr a gafodd ei eni a'i fagu yn Aberystwyth yn fab i Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd y mudiad ieuenctid Urdd Gobaith Cymru, ac yn ŵyr i'r hanesydd, awdur a chyhoeddwr, O.M. Edwards.

Ymhlith y cyfranwyr at y rhaglen, mae ei gyfaill ysgol John Meredith, y cynhyrchydd Wil Aaron a Glyn Tegai Hughes ac Alwyn Roberts, dau o aelodau cyntaf Awdurdod S4C.

Mae'r hanesydd darlledu Jamie Medhurst yn cloriannu ei gyfraniad fel arweinydd arloesol S4C, ac mae ei gydweithwyr yno'n ei gofio fel arweinydd cadarn a dyn caredig.

Dechreuodd Owen Edwards ei yrfa fel cyflwynydd rhaglenni Cymraeg ar ITV a'r BBC. Enillodd enw da fel darlledwr coeth ar raglen newyddion ddyddiol y BBC, Heddiw. Yn y 1970au, aeth tu ôl i'r camera fel Trefnydd Rhaglenni'r BBC a Phennaeth Rhaglenni cyn cael ei benodi'n Rheolwr BBC Cymru yn 1974.

Un sy'n ddyledus i Owen Edwards am ei arweiniad a'i gyfeillgarwch ac sy'n ei edmygu fel darlledwr a gweinyddwr yw'r darlledwr profiadol Hywel Gwynfryn.

"Roedd gan Owen y gallu i fod yn dreiddgar ac yn gydymdeimladol â'r person yr oedd yn ei holi a roedd yn ddyn trawiadol, golygus ar y sgrin," meddai Hywel. "Fel gweinyddwr, roedd yn magu teyrngarwch ac roeddwn bob amser yn falch o fod yn aelod o'i dîm. Rwy'n gwybod bod eraill yn y BBC ac yn S4C yn teimlo'r un fath. Fe ddaru o ddysgu imi fel darlledwr wrando a pheidio gofyn gormod o gwestiynau, ac roeddech yn parchu ei farn am eich bod yn gwybod ei fod wedi bod trwy'r profiad ei hun. Roedd yn ddyn caredig a hael."

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales