S4C

Close
Flash is required to view this video

Perffaith Hapus

Perffaith Hapus

Beth sy'n dy wneud di'n hapus?

'Pawb at y peth y bo' meddai'r dywediad. Gall un peth sy'n gwneud i rywun wenu beri i'r llall ddigalonni - a dyma fydd testun cyfres newydd feiddgar ar S4C.

Yn y gyfres chwe rhan Perffaith Hapus, sy'n dechrau nos Fercher, 13 Mehefin, bydd Lisa Angharad - cyflwynydd y gyfres Ddoe am Ddeg - yn mynd ar drywydd y pethau sy'n ein gwneud ni'n hapus, ac yn gofyn pam.

O'r corff perffaith i'r awch am enwogrwydd a'r dyheu am fod yn gyfoethog, bydd Lisa yn ceisio mynd at wraidd pam ein bod ni eisiau'r pethau hyn, ac a allan nhw ein gwneud ni'n hapus mewn gwirionedd.

Y pwnc cyntaf dan sylw yw 'Y Corff Perffaith'. Bydd Lisa'n cwrdd â phobl sy'n ymdrechu'n galed i gael y corff delfrydol - boed hynny drwy lawdriniaeth neu yn y gampfa. Yn eu plith mae criw o bodybuilders o Gaernarfon.

"Roedd cwrdd â'r bodybuilders yn eithaf intense. Ges i sioc pa mor ddifrifol oedden nhw'n cymryd y cystadlu a'r diet oedden nhw'n ei ddilyn er mwyn cael y corff maen nhw eisiau," meddai Lisa, sy'n credu bydd y gyfres yn rhoi syniad i ni pam bod pobl yn gwneud pethau sy'n ymddangos yn wrthun i ni.

"Ar un cyfnod roedden nhw'n bwyta deuddeg wy i frecwast, ac yn bwyta pysgod bob hanner awr! Yna cyn y gystadleuaeth fydden nhw ddim yn yfed dim byd am amser hir."

Ar gyfer rhaglen arall yn y gyfres sy'n edrych ar golli pwysau, bydd Lisa yn dilyn dau gynllun diet poblogaidd er mwyn mesur yr effeithiau.

"Ar hyn o bryd rwy'n gwneud diet lle dwi ddim yn cael bwyta carbohydradau na llysiau, yr unig beth 'dwi'n cael bwyta mewn gwirionedd ydi cyw iâr, wyau a ham. Mae e'n erchyll!

"Bydda i hefyd yn trio diet sydd yn ddim byd bron ond diodydd shakes. Dwi ddim yn edrych ymlaen o gwbl!"

Ymhlith y pynciau eraill yn y gyfres mae canfod y partner perffaith, enwogrwydd a chyfoeth ac i gloi bydd hi'n mynd ati i drefnu'r Parti Perffaith - gan edrych ar yfed, rhyw a chyffuriau.