S4C

Close
Flash is required to view this video

Pobol: Dyn Talaf y Byd

Pobol: Dyn Talaf y Byd

Chwedl y cawr a’r chwaraewr rygbi rhyngwladol

Mae'r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Derwyn Jones yn 6' 10" o daldra ac wedi treulio ei fywyd yn edrych i lawr ar bawb a phopeth. Ond sut brofiad fydd gorfod plygu ei war i'r cyfeiriad arall er mwyn cynnal sgwrs gyda rhywun sydd hyd yn oed yn dalach nag ef?

Yn y gyfres ddogfen ddwy ran Pobol: Dyn Talaf y Byd, sy'n dechrau nos Fercher, 4 Ebrill, awn ar daith gyda Derwyn i Dwrci i gwrdd â Sultan Kosen, y dyn talaf yn y byd.

Mae Sultan, sy'n 8' 3'', o daldra wedi hawlio teitl y Guinness World Records ers 2009. Mae wedi tyfu i'r fath daldra oherwydd cyflwr sy'n effeithio ar ei hormonau -ac er iddo dderbyn llawdriniaeth sawl tro, mae'n dal i dyfu.

"Roedd cyfarfod Sultan Kosen yn brofiad arbennig iawn. Dwi erioed wedi edrych lan at unrhyw un sy'n dalach na fi o'r blaen felly roedd yn brofiad unigryw," meddai Derwyn.

Yn ogystal ag edrych ar fywyd Sultan, bydd Derwyn hefyd yn trafod anfanteision a manteision ei daldra ei hun. Mae'r rhain yn cynnwys pethau ymarferol fel prynu dillad a phroblemau mwy difrifol.

"Un o'r rhesymau ges i lwyddiant ar y maes rygbi oedd oherwydd fy nhaldra. Fi yw'r chwaraewr talaf erioed i wisgo crys coch Cymru," esbonia Derwyn. "Fe wnes i dyfu yn gyflym iawn, ro'n i'n dalach na'r plant eraill yn yr ysgol, ac fe ges i lawer o broblemau gwynegon."

Yn ystod ei arddegau fe ddioddefodd Derwyn gyda'r cyflwr Osgood-Schlatters, sy'n broblem gyffredin i bobl dal. Mae'n gyflwr poenus iawn sy'n achosi chwyddo yn y pengliniau gan ei gwneud hi'n anodd i chi redeg a gwneud chwaraeon.

"Er fy mod i wedi wynebu ambell sialens oherwydd fy nhaldra, dyw hynny yn ddim byd i gymharu â bywyd Sultan," meddai Derwyn wrth edmygu par o esgidiau Sultan sydd wedi ei gwneud iddo yn arbennig gan grydd yn Yr Almaen.

Er y trafferthion ymarferol a'r problemau iechyd, mae un peth yn achosi mwy o loes calon i Sultan na'r un arall. Mae ei faint wedi bod yn rhwystr iddo ddod o hyd i wraig ac wrth sgwrsio, mae Sultan yn agor ei galon ac yn rhannu ei ofidiau gyda Derwyn.

Mae'r ddau yn dod yn ffrindiau ac wrth ffarwelio â Sultan yn ei gartref mewn ardal wledig o Dwrci, mae Derwyn yn cyflwyno anrheg iddo, sef crys rygbi Cymru.

"Dywedodd Sultan y byddai'n trysori crys coch Cymru - 'nesaf at y galon' meddai - a dyna sut ddyn yw e, gŵr bonheddig. Mi gefais gyfle i gwrdd â'r dyn ei hun, y dyn y tu ôl i'r teitl. Mae'n fachan ffein sydd, er gwaetha'r sylw, wedi cael bywyd caled. Mi roddodd groeso arbennig i mi, croeso un mewn 7 biliwn!"