S4C

Close
Flash is required to view this video

Prosiect: Rhys Ifans

Prosiect: Rhys Ifans

Portread cofiadwy o Rhys Ifans

Mae portread o’r seren Hollywood Rhys Ifans ar S4C yn datgelu ochr sensitif, feddylgar ac angerddol i’r actor byd-enwog sydd yn aml yn cael ei bortreadu fel 'dyn gwyllt' gan y papurau newydd.

Mae’r rhaglen Prosiect: Rhys Ifans, sy’n cael ei darlledu Nos Fawrth, 3 Ionawr, yn gyfres o gyfweliadau dadlennol a gafodd y darlledwr a’r comedïwr Daniel Glyn gyda Rhys Ifans.

Rhys Ifans yw'r prif ddihiryn yn ffilm fawr 2012 - The Amazing Spiderman - ac fe dreuliodd Daniel gyfnod yn ei gwmni wrth iddo ffilmio ei ran, 'The Lizard'.

Yn y cyfweliadau ecsgliwisif, mae Rhys yn sôn am ei fywyd, ei waith, ei grefft, a'r anturiaethau a arweiniodd at ei ran yn blockbuster mwyaf yr haf nesaf.

"Mae actio yn waith caled, anodd a'r oriau'n hir, er yn wych ar yr un pryd," meddai Rhys Ifans. "Dwi ddim ishe cwyno'n ormodol pan mae nyrsys, ffermwyr ac athrawon allan yno'n gweithio oriau maith. Ond mae'n bwysig bod pobl yn gwybod bod y gwaith yn uffernol o galed. Fel actor, rhaid i ti dderbyn cael dy wrthod drosodd a throsodd - a chofio bod y carped coch jest yn para munud. Dwi ddim yn 'nabod yr un actor sy'n mwynhau'r carped coch beth bynnag."

Ond mae Rhys Ifans hefyd yn datgelu faint mae wedi mwynhau'r her o actio yn The Amazing Spiderman.

"Wnes i ddim cyffroi gormod pan ges i'r rhan i ddechrau, fe fyddai hynny wedi gwneud i fi'n uffernol o nerfus. Ond wrth ffilmio, ti'n sylweddoli cymaint o fwystfil yw'r prosiect £160 miliwn yma. Dwi erioed wedi teimlo cweit fel hyn ar set o'r blaen - teimlo'r pwysau o orfod gwneud yn dda. Dwi'n gwybod bod y ffilm yn enfawr a bod rhaid imi fod ar fy ngorau."

Yn y rhaglen mae hefyd yn sôn am y profiad o chwarae rhan yn un o ffilmiau Harry Potter, portreadu'r comedïwr Peter Cooke, actio gyda'i hen ffrind, Daniel Craig yn y ffilm Enduring Love, gweithio gyda'i frawd Llŷr Evans yn y ffilm Twin Town ac am y noson wnaeth e gwrdd â Shirley Bassey yn Cannes.

Mae hefyd yn datgelu ei ddyled i'r diweddar ddiddanwr ac actor Gari Williams wrth benderfynu yn hogyn wyth oed mai actor oedd o am fod.

"Ges i fynd i fyny i'r llwyfan o'r gynulleidfa mewn pantomeim yn Theatr Clwyd lle'r oedd Gari Williams yn serennu. Ges i deimlad anghyffredin, newydd i fyny ar y llwyfan, teimlad 'mod i isho bod yn ddewr a chamu allan o fyd cysurus plentyndod. Roedd yn foment wna i ddim anghofio," meddai Rhys, sy'n hanu'n wreiddiol o dre' Rhuthun yng Ngogledd Cymru.

Mae Daniel Glyn wedi cyfweld â channoedd o bobl dros y blynyddoedd, ond wastad wedi bod ishe gwneud cyfweliad â Rhys Ifans.

Meddai Daniel Glyn, "Wedi ugain mlynedd o swnian, a welodd Rhys yn gorfod newid ei rif ffôn pymtheg o weithiau, o'r diwedd fe ildiodd y seren Hollywood a chytuno i siarad â fi. "Un peth sy'n dod yn amlwg wrth wylio'r rhaglen yw bod Rhys yn cymryd y grefft o actio, a gwneud pobl i chwerthin, o ddifri. Mae'n dangos bod yn rhaid ichi aberthu lot o bethau i fod yn actor enwog ac mae'n gallu bod yn fywyd unig.

"Dwi'n gobeithio wrth wylio'r rhaglen y bydd gwylwyr yn sylweddoli bod Rhys yn bell o fod yn 'ddyn gwyllt' - chwedl y tabloids- a bod ei lwyddiant yn ysgogiad i unrhyw actor neu gomedïwr ifanc i weithio'n galed."