Bydd rhaglen bortread o Rhodri Morgan yn dangos agweddau ar fywyd y cyn Brif Weinidog sydd heb gael sylw mawr o'r blaen.
Yn y rhaglen Rhodri Morgan, fe fydd y newyddiadurwr profiadol Tweli Griffiths yn dilyn Rhodri yn ymarfer ei fysedd gwyrdd yn yr ardd, ac yn mwynhau ei wyliau blynyddol ym Mwnt. Bydd hefyd yn edrych ar yrfa wleidyddol a oedd yn cynnwys bron i ddegawd fel ail Brif Weinidog y Cynulliad.
Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfweliad gyda mam Rhodri, Huana Morgan, gafodd ei ffilmio yn 2000. Mae'n sôn am gadw'r Gymraeg yn fyw ar yr aelwyd ynghanol Seisnigrwydd Caerdydd, ac yn cofio mynd â'i mab i'w gyfarfod gwleidyddol cyntaf pan oedd tua 12 oed. Bu farw Huana yn 2005 ar drothwy ei phen-blwydd yn gant oed.
Yn ôl ei frawd Prys, roedd yna elfen o wrthryfela yn y Rhodri ifanc yn erbyn y 'diwylliomania' yn y teulu - y tad yn athro Prifysgol, a'r fam yn awdures. Yng nghanol y Chwedegau, ei ffrind gorau, Neil Kinnock, wnaeth ei berswadio i ymuno â'r Blaid Lafur.
Ond yn ôl Prys Morgan hefyd, mae hanes a diwylliant Cymru wedi dod yn bwysicach i Rhodri ers cael ei ethol yn Brif Weinidog. Meddai Prys Morgan, "Mae e wedi ymwneud gymaint yn fwy â'r 'Fro Gymraeg' a'n llenyddiaeth, a'n diwylliant, ac mae e wedi dod yn debycach i 'nhad a 'nhad-cu a'n cyndeidiau ni - nid yn unig eu radicaliaeth nhw, ond eu diddordeb nhw mewn Steddfodau ac yn y blaen."
Roedd sawl siom yn wynebu Rhodri Morgan tuag at ddiwedd y Nawdegau. Pam fod Tony Blair wedi penderfynu peidio ei benodi'n Ysgrifennydd Cymru? Mae Rhodri ei hun yn adrodd y stori am ei fam-yng-nghyfraith, ar un achlysur, yn cyfarch darpar Brif Weinidog Prydain fel 'Lionel Blair', ond mae'n amau nad dyna oedd y rheswm dros agwedd Blair tuag ato!
Yn y rhaglen, fy ddywed Neil Kinnock ei fod wedi ei syfrdanu pan na chafodd Rhodri swydd yn llywodraeth Llafur 1997.
Esbonia Neil Kinnock, "Ches i fyth esboniad clir o'r penderfyniad gan Tony Blair. Ond o leia' mi wnaeth gydnabod ei gamgymeriad yn weddol fuan wedyn. Roedd e'n falch iawn i gael Rhodri yno yn y diwedd."
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales