Gyda'r Eisteddfod Genedlaethol ar droed, bydd rhaglen ddogfen arbennig ar S4C yn rhoi blas i ni ar fywyd y to ifanc o feirdd sy'n ennill eu plwy' yn y byd llenyddol Cymraeg.
Bydd Saith Bardd yn cynnig portread o Eurig Salisbury, Hywel Griffiths, Aneirin Karadog, Catrin Dafydd, Osian Rhys, Rhys Iorwerth ac Iwan Rhys. Mae'r beirdd yma'n ffrindiau penna', ond eto yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am brif wobrau llenyddol Cymru.
Eurig, Hywel, Aneirin, Catrin ac Iwan yw aelodau gwreiddiol y gymdeithas 'Crap ar Farddoni'. Eisoes, mae gan y pump lu o wobrau rhyngddyn nhw, gan gynnwys chwech o Gadeiriau Eisteddfodau'r Urdd. Aelodau diweddara'r criw yw Osian Rhys a Rhys Iorwerth.
Mae'r criw bellach yn rhy hen i'r Urdd, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, maen nhw wedi dechrau gwneud eu marc ym mhrif gystadlaethau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Hywel oedd y cyntaf i ennill un o brif wobrau'r Brifwyl, gan gipio'r Goron yng Nghaerdydd y llynedd," meddai Aneirin, sydd wedi gweithio fel gohebydd ar y rhaglen gylchgrawn ddyddiol Wedi 7 ers 2006.
"Sa' i'n gwybod pwy fydd nesa. Mae Eurig wedi dod yn ail dair gwaith yn olynol ac mae'n siŵr fod hynny'n rhyw fath o record."
Bydd Aneirin hefyd yn cystadlu yn Nhalwrn y Beirdd yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni fel rhan o dîm y Deheubarth gyda Rhys, Iwan a Hywel. Fe fydd hynny'n gyfle arall i'r beirdd ifanc fagu profiad ac ennill statws.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales