S4C

Close
Flash is required to view this video

Sam Hughes: Cowboi Penfro

Sam Hughes: Cowboi Penfro

O Sir Benfro i Tucson, Arizona - taith anhygoel y Cowboi o Gymro

Cymeriad lliwgar ac unigryw o Sir Benfro yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Sam Hughes. John Pierce Jones sy'n adrodd ei hanes yn y gyfres ddogfen ddwy ran Sam Hughes: Cowboi Penfro ar 19 a 26 Chwefror.

"Dwi 'di teithio dipyn ar hyd a lled America bellach, a bob man dwi'n mynd fydda i'n dod ar draws Cymry â hanes diddorol iawn iawn iddyn nhw," meddai John, sy'n mynd â ni i Tucson - sef dinas gyda phoblogaeth o hanner miliwn yn ne Arizona.

"Pan ddes i yma gynta' mi sylwais i ar enw Sam Hughes ym mhobman. Ar y strydoedd, caffis, gwestai, ysgolion. Ac ar ôl tipyn o ymchwil, dwi wedi dilyn ei stori yn ôl i'r dechra', i Gymru a Sir Benfro."

Cymro Cymraeg oedd Sam Hughes a aned yn Llanfyrnach yn 1829. Ond ym 1837 symudodd ei deulu i Unol Daleithiau'r America i chwilio am fywyd gwell.

Dechrau digon caled gafodd Sam i'w fywyd. Bu farw ei fam yn fuan wedi iddyn nhw gyrraedd America, yna clwyfwyd ei dad yn ddifrifol gan beri anabledd a effeithiodd arno am weddill ei oes. Yn 11 mlwydd oed, cafodd Sam y cyfrifoldeb o ofalu am weddill y plant. Felly sut daeth y bachgen anffodus hwn i fod yn ddylanwad mor gryf ar dref Tucson?

Bydd John Pierce Jones yn dilyn yn ôl troed Sam gan ddechrau yn Philadelphia a dilyn hefyd yr olion Cymreig sydd i'w gweld ym mhobman mewn trefi, strydoedd a mynwentydd. Mae'n teithio ymlaen i Pittsburgh, New Orleans, St Joseph, ac yna ar draws canol America ar y wagon-train enwog i'r gorllewin pell a'r meysydd aur.

"Ar y wagon-train mawr cynta' cafodd Sam swydd fel prif gogydd. Roedd cannoedd o bobl yn cyd-deithio ag o'r holl ffordd gan gwblhau'r siwrnai o ddwy fil o filltiroedd ac agor America fel un genedl enfawr," meddai John, ond hon oedd yr antur gyntaf o nifer i Sam.

Gwnaeth ei ffortiwn yn y meysydd aur, ac ymhlith y mentrau eraill mae rhedeg gwesty moethus, cadw gwartheg ar ranch yn Texas, cael ei anafu mewn brwydr â'r Llwythi Brodorol, a brwydro yn rhyfel cartref America.

Ond yn goron ar y cyfan roedd ei waith o ddatblygu Tucson o fod yn bentref bychan i'r ddinas fel y mae hi heddiw. Dechreuodd lywodraeth leol, masnach a banciau, a sefydlu ysgolion - rhywbeth yr oedd yn credu'n gryf ynddo am iddo fethu â chael addysg ei hun.

Roedd hi'n gamp sylweddol i'r bachgen o Lanfyrnach, ac mae stamp ei etifeddiaeth yn parhau'n gryf ar ddinas Tucson, Arizona.