S4C

Close
Flash is required to view this video

Tai Bach y Byd

Tai Bach y Byd

Beth mae'r tŷ bach yn ei ddweud amdanom ni?

"Mae'n destun annhebygol efallai, ond i fi, mae hynny'n rheswm da dros edrych ar y pwnc," meddai Ifor ap Glyn, cyflwynydd a chynhyrchydd y gyfres newydd Tai Bach y Byd, sy'n dechrau ar S4C nos Iau, 26 Ebrill.

"Rydan ni'n sôn am rywbeth sy'n effeithio arnom ni gyd, a hynny mewn ffyrdd pwysicach nag y buasech chi'n meddwl."

Ar ei daith bydd Ifor yn chwilio am doiledau mwyaf diddorol Tsieina, Siapan, Bangladesh, Sbaen, yr Iseldiroedd a Lloegr, ond mae'n dechrau gyda'r tŷ bach Cymreig yng ngwaelod yr ardd.

"Byddwn yn edrych ar hanes toiledau - wyddost ti fod sôn am doiledau yn y Beibl? Byddwn hefyd yn edrych ar sut mae'r cynllun wedi newid dros y blynyddoedd, yn ein cymdeithas ni ac mewn gwledydd eraill. Mae'r math o doiled sydd gennym ni yn dweud llawer amdanom ni fel pobl.

"Os ewch chi ar eich gwyliau i Ffrainc a gorfod defnyddio toiled twll yn y ddaear, mae hynny'n eich gorfodi chi i newid eich arferion dros dro - sef wrth gwrs mynd yn eich cwrcwd yn hytrach nag eistedd.

"Ond y gwir amdani yw mai hyn yw'r norm i lawer yn y byd, ac nid dyma'r unig arferiad sy'n ein rhannu. Mae'r Tsieiniaid yn sgwennu cerddi o gwmpas drysau eu tai bach. Yn yr Iseldiroedd maen nhw'n ceisio annog merched i wneud pipi ar eu sefyll. Yn yr Unol Daleithiau ers talwm roedden nhw'n defnyddio corncobs i sychu'u penola'!

"Bydd y gyfres bedair rhaglen yn ddigon hwyliog, ond fyddwn ni ddim yn trin y pwnc fel jôc. Er mi wnaethon ni ymweld â'r Golden Poo Awards sy'n dathlu hiwmor tŷ bach - ond fel 'stỳnt' i godi ymwybyddiaeth am y 2.6 biliwn o bobl yn y byd sydd heb dai bach.

"Y wlad fwyaf diddorol i ni ymweld â hi oedd y wlad dlotaf, lle mae toiledau ar eu prinnaf, sef Bangladesh. Buon ni'n gweld cynllun gan y sefydliad BRAC (Bangladesh Rural Advancement Committee) sy'n helpu pobl i adeiladu eu toiledau syml eu hunain ac yn eu dysgu nhw pam mae eu defnyddio nhw mor bwysig - yn syml, mae'n lleihau afiechydon. Mae pobl yn byw yn hirach mewn cymdeithasau lle mae toiledau'n gyffredin."

Roedd ymweliad Ifor â Siapan, a'r toiledau soffistigedig sydd ganddynt yn y wlad honno, yn brofiad i'r gwrthwyneb.

"Mae'r tai bach yn fanno'n debycach i cockpit awyren na dim byd arall. Mae gynnon nhw seti sy'n cynhesu dy ben ôl a spray sy'n llnau dy ben ôl hefo botymau gwahanol i newid llif a thymheredd y dŵr. Roedd yn rhy gymhleth i fi a chewch chi weld sut wnes i smonach o bethau - roedd dŵr ymhob man!"