Neidio at y cynnwys

S4C

Taith y Tad Deiniol

Taith y Tad Deiniol

Bydd modd dilyn un o ffigyrau mwyaf diddorol y ffydd Gristionogol yng Nghymru wrth iddo fynd ar bererindod o'i Eglwys Uniongred yng ngogledd Cymru i rai o ganolfannau pwysica'r ffydd ledled y byd mewn cyfres ddogfen dair rhan ar S4C.

Bydd Taith y Tad Deiniol sy'n dechrau nos Fawrth, 9 Rhagfyr yn dilyn yr offeiriad adnabyddus o Flaenau Ffestiniog wrth iddo estyn dwylo dros y môr i ddilynwyr y ffydd ym Macedonia yn y Balkans, Efrog Newydd a thalaith Kansas yn yr UDA ac Istanbul a Cappadoccia yn Nhwrci.

Mae'r gyfres wedi'i chynhyrchu a'i chyfarwyddo'n drawiadol gan Pete Telfer o gwmni Pixel Foundry, fu'n ddisgybl i'r Tad Deiniol yn Ysgol Ardudwy, Harlech. Y bardd Twm Morys, sydd â diddordeb byw yn yr Eglwys Uniongred, sy'n lleisio'r rhaglenni.

Yn ogystal â dilyn ei daith ddaearyddol yn Ewrop, Asia ac America, bydd y gyfres yn adrodd hanes siwrnai ysbrydol bersonol y Tad Deiniol fu'n offeiriad yn yr ardal lechi hon ers chwarter canrif. Yr achos yn Stiniog yw un o ychydig rai'r Eglwys Uniongred yng Nghymru ac mae'r Tad Deiniol yn ymwybodol o bwysigrwydd cadw mewn cysylltiad gyda'r Eglwys ledled y byd.

"Mae'r Eglwys ym Mlaenau yn teimlo'n bell yn ddaearyddol o achosion eraill yr Eglwys, felly mae'n bwysig cynnal y cyfeillgarwch agos rhwng yr Eglwys yng Nghymru a'r Eglwys ledled y byd. Mae'n ein gwneud yn ymwybodol ein bod yn perthyn i rywbeth mwy na'n heglwys ni yng Nghymru," meddai'r Tad Deiniol.

Dechreuodd y Tad Deiniol ymddiddori yn yr Eglwys Uniongred yn ei arddegau fel hogyn ifanc yn Wrecsam. Mae'n credu mai un o rinweddau mawr yr Eglwys yw ei bod yn dyddio yn ôl i'r Eglwys Gristnogol gynnar ac i gyfnod seintiau'r Eglwys Geltaidd yng Nghymru o'r bumed ganrif ymlaen.

Mae'r cysylltiad yma â seintiau Cymru mor bwysig i'r Eglwys Uniongred ac i'r Tad Deiniol fel bod Eglwys yr Holl Seintiau ym Mlaenau wedi'i chysegru i seintiau Cymru. Yn y rhaglen gyntaf, cawn weld sut aeth yr Eglwys ati i adnewyddu hen eglwys wag yn y dref a'i haddurno ag eiconau o'r seintiau.

Mae'r diddordeb yn hen seintiau a ffynhonnau Cymru yn amlwg ymhlith arweinwyr a dilynwyr yr Eglwys Uniongred yn yr Unol Daleithiau wrth i'r Tad Deiniol, yn ail raglen yn y gyfres, ymweld ag Efrog Newydd a Wichita, Kansas.

Yn rhaglen ola'r gyfres, cawn weld diddordeb yn yr Eglwys o ffynhonnell ychydig yn fwy annisgwyl wrth i'r Tad ymweld â rhai o safleoedd pwysig y ffydd yn Nhwrci. Mae'n ymweld ag Istanbul (Caergystennin ers talwm a'r ddinas sy'n dal yn cael ei hystyried yn fam eglwys i'r ffydd uniongred) a mynydd-dir Cappadocia yng nghwmni perchennog siop kebabs ym Mhorthmadog, Gencay Zorlu, sy'n wreiddiol o'r ardal hon. Yno mae'n cyfarfod y Patriarch ei hun ac yn chwilio am gartref hen sant a broffwydodd y bydd adfer y ffydd yn Ynysoedd Prydain.

Ond mae'r gyfres yn dechrau trwy ddilyn hanes yr achos ym Mlaenau a thaith y Tad Deiniol i Facedonia. Yma, mae'n ymweld â mynachlog ryfeddol ar ben mynydd uwchlaw'r brifddinas, Skopje, a oroesodd ddegawdau o dan drefn gomiwnyddol nad oedd yn annog y ffydd Gristnogol ac mae wedi ail sefydlu ei hun fel mynachlog ddeinamig a chartref i gasgliad rhyfeddol o ffrescos sy'n dyddio nôl saith canrif.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales