Mae Aelod Seneddol Cwm Cynon, Ann Clwyd, wedi teithio'r byd yn ei hymgyrch hir i gynorthwyo pobl anghenus, ac yn sgil hynny, wedi ymweld â rhai mannau peryglus iawn.
"Dwi, fel cyn newyddiadurwraig, am weld dros fy hun y peryglon sy'n dinistrio gwledydd a'u pobl," meddai.
Yn y rhaglen Taith Ann Clwyd yr wythnos hon, cawn ddilyn Ann wrth iddi ddychwelyd i un o'r gwledydd hynny, Cambodia. Ac mae'r daith yn ei hysgogi i fyfyrio am ei gyrfa wleidyddol, a'r hyn sydd wedi ei hysbrydoli dros y blynyddoedd.
Mae dros 20 mlynedd wedi mynd heibio ers ei hymweliad cyntaf â Cambodia a gafodd ei chwalu bron gan gyfres o ryfeloedd. Pan aeth hi yno ym 1987 ar daith a drefnwyd gan Oxfam, roedd Cambodia mewn cyflwr ofnadwy.
Roedd dwy filiwn o bobl wedi cael eu lladd, a'r brifddinas, Phnom Phen, yn hanner gwag ar ôl i'w thrigolion gael eu gyrru oddi yno yn ystod cyfnod y Khmer Rouge a'u harweinydd, Pol Pot.
Yn awr, mae'r daith arbennig hon yn ôl i Cambodia, o Feysydd Lladd y Khmer Rouge i ganol yr holl ymdrechion sy'n ceisio helpu'r wlad i ddygymod â phoen y gorffennol, yn rhoi cyfle i Ann fwrw golwg yn ôl dros 30 mlynedd o wleidydda.
Wrth deithio, mae'n cofio'r bobl a'r profiadau sydd wedi dylanwadu arni yn ystod ei gyrfa, gan gynnwys ei safiad dros hawliau gweithwyr Glofa'r Tŵr yn ei hetholaeth.
Mi roedd ei phrofiad cyntaf yn Cambodia yn gatalydd iddi fynd ati i frwydro o blaid hawliau dynol ar draws y byd.
Yn ystod y rhaglen cawn weld Ann yn cyfarfod â Phrif Weinidog Cambodia, Hun Sen, ac yn mynychu tribiwnlys arbennig sy'n dwyn achosion yn erbyn rhai o gyn arweinwyr y Khmer Rouge.
Mae' ymweld ag ardal Prey Veng i weld y gwaith sy'n cael ei wneud gyda phobl ifanc y wlad gan elusen a sefydlwyd gan hen ffrind iddi.
Meddai cynhyrchydd a chyfarwyddwr y rhaglen, Wynford Jones, "Roedd y daith i Prey Veng, a gweld gobaith y genhedlaeth newydd, yn ffordd ddelfrydol i orffen y daith."
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales