Ar drothwy pen–blwydd S4C yn 25 oed, bydd cynhyrchiad deuran arbennig gan BBC Cymru ar S4C, Teledu'r Cymry, yn olhrain datblygiad teledu cyfrwng Gymraeg. Cyflwynir y rhaglenni gan Dewi Llwyd.
Yn y rhaglen gyntaf, y cyfnod cyn sefydlu S4C yn 1982 sydd dan sylw. Roedd teledu'n gyfrwng mor newydd ac estron yn y 1950au nes y cynhaliwyd cystadleuaeth agored i fathu gair Cymraeg ar ei gyfer. O'r egin hwn y tyfodd y cyfrwng sydd bellach yn rhan annatod o'n bywyd ni fel Cymry ar lefel wleidyddol a chymdeithasol yn ogystal ag ar lefel bersonol.
Yn 1953, blwyddyn marw Stalin a choroni Elizabeth II, y darlledwyd y rhaglen Gymraeg gyntaf. Roedd pryder mawr ar y pryd fod cyfrwng y teledu mewn peryg o 'Lundaineiddio' ein cymunedau. Roedd y rhaglenni cynnar Cymraeg yn cael eu darlledu ar ôl rhaglenni Saesneg y BBC ac roedd pob rhaglen, hyd yn oed y dramâu, yn cael eu darlledu'n fyw.
“Os gwnaethoch chi lawer o deledu byw, s'dim ofn unrhyw beth arnoch chi ar ôl hynny,” meddai'r actores fyd-enwog, Siân Phillips. “Roedd e'n wallgo!”
Ond daeth hwn yn gyfrwng democrataidd hefyd, yn gyfle i bobl gyffredin weld eu hwynebau ar y sgrîn am y tro cyntaf. Ac wrth i'r teledu ennill ei le fel cyfrwng pwerus a phoblogaidd, dechreuodd y dadlau o ddifri dros sefydlu sianel deledu Gymraeg.
Mae ail raglen Teledu'r Cymry yn trafod y cyfnod ers sefydlu S4C. Bydd yn gyfle i edrych o'r newydd ar ddatblygiad y sianel – y cyfnod cynnar gyda chyflwynwyr ar y sgrîn; dramâu arobryn a rhaglenni plant; darllediadau newyddion cynhwysfawr; y gemau chwaraeon mawr a'r helyntion a ddatblygodd i fod yn dyddiol o Gwmderi ar Pobol y Cwm.
Yn ogystal, bydd y rhaglen yn bwrw golwg unigryw dros ddatblygiadau tu ôl i'r sgrîn. Mae Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, a Menna Richards, Rheolwr BBC Cymru, yn cael eu cyfweld ynglŷn â gorffennol – a dyfodol – y sianel. Mae byd y cyfryngau'n newid yn gyflym, a bydd Teledu'r Cymry yn ein gorfodi i ddechrau meddwl y tu allan i'r bocs bach yn y gornel, a thua'r dyfodol.
Am ragor o wybodaeth am hanes darlledu yng Nghymru, yn cynnwys clipiau fideo a sain yn dyddio 'nôl i'r 1920au, ewch i www.bbc.co.uk/cymruaryrawyr
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales