Mae Theatr Felin-fach yng Ngheredigion yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed eleni.
Mae'r gweithgaredd oddi fewn y theatr, a'r gweithgaredd yn y gymuned sydd wedi deillio o'r theatr, wedi esgor ar fôr o dalent sydd wedi, ac sy'n parhau, i gyfoethogi pob agwedd ar fywyd yng Nghymru.
Yn y rhaglen ddogfen Theatr Fawr Felin-fach yr wythnos hon cawn gyfle i ddathlu'r dalent honno tra hefyd yn bwrw golwg ar hanes y theatr gyda chymorth deunydd archif ac atgofion rhai sydd wedi chwarae rôl yn natblygiad y theatr.
Yr actor Rhys ap Hywel (sy'n chwarae rhan Llŷr yn y gyfres ddrama Teulu ac sydd hefyd wedi ymddangos mewn sawl cynhyrchiad teledu a theatr gan gynnwys Belonging a Pobol y Cwm) sy'n cyflwyno'r rhaglen. Mae ganddo yntau gysylltiad agos â Theatr Felin-fach, fel yr esbonia cyd-gynhyrchydd y rhaglen, Euros Lewis." Mae Rhys yn rhan o gynnyrch y theatr. Fan hyn y cafodd ei ryddid cyntaf i greu," meddai.
Mae Euros yn falch o'r ysbryd egnïol sy'n byrlymu oddi fewn y theatr sy'n fodlon herio a gwthio ffiniau.
"Mae elfen ddrygionus yn perthyn i Theatr Felin-fach yn sicr. Fe allwch chi ei disgrifio fel person ifanc sy'n gwrthod cydymffurfio. Ac mi faswn i'n dweud mai canolfan o greu yw hi, nid canolfan o berfformio. Mae'r pwyslais ar y broses o greu. Mae'r cynyrchiadau yn codi cwestiynau ynglŷn â'r bygythiadau sy'n wynebu bywyd yng nghefn gwlad Cymru heddiw."
Yn ogystal â'r deunydd archif, sy'n cynnwys clipiau o'r rhaglenni materion cyfoes o'r 1960au a'r 70au, Y Dydd a Heddiw, mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys golygfeydd o rai o gynyrchiadau'r theatr dros y blynyddoedd, yn cynnwys y ffilm Hambôns.
Comisiynwyd y cynhyrchiad gan yr Urdd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llambed yn 1999. Yn hytrach na'r sioe lwyfan arferol, aethpwyd ati i greu ffilm sinematig. Ei phrif thema oedd y gwrthdaro rhwng plant brodorol yr ardal a phlant teuluoedd oedd wedi symud i mewn i'r ardal. Fe wnaeth gryn argraff ac fe'i darlledwyd yn ddiweddarach ar S4C. Mae'n parhau i gael ei dangos mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru.