Bellach mae 95,000 o blant yn cael eu haddysgu mewn ysgolion penodedig Cymraeg, 70 blynedd wedi agoriad yr ysgol Gymraeg gyntaf.
Yn y rhaglen ddogfen hon bydd maswr y Gleision, Nicky Robinson a chriw o ddisgyblion yn dweud stori hanes ysgolion Cymraeg.
Bydd Nicky, cyn ddisgybl Ysgol Gyfun Glantaf, Caerdydd, yn taflu'r bêl hirgron o'r neilltu am y tro, gan fentro ar wibdaith ar hyd a lled Cymru gyda disgyblion Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, Y Barri.
Bydd y criw yn ymweld ag Aberystwyth, y man lle agorwyd yr ysgol gynradd Gymraeg gyntaf yn 1939 ac i Lanelli, lle'r oedd y cyhoedd yn herio'r awdurdod lleol i gael addysg Gymraeg. Maent hefyd yn mynd i Dŷ'r Cymry yng Nghaerdydd lle cafodd yr ysgol Sadwrn Gymraeg gyntaf ei hagor yn ystod y 40au.
Yna, maen nhw'n mentro i'r gogledd, i Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl ac i Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, cyn trafod dyfodol addysg Gymraeg gyda Phrif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, yn adeilad y Senedd.
Cafodd Nicky a'i frodyr Jamie, sydd hefyd yn chwarae dros y Gleision, ac Ellis eu magu ar aelwyd ddi-Gymraeg, gyda'u mam yn dod o ogledd Lloegr a'u tad o Lundain. Ond, er eu bod nhw'n ddi-Gymraeg, fe benderfynodd y rhieni anfon y tri brawd i ysgolion Cymraeg y brifddinas.
Meddai Nicky, "Roedd yn brofiad arbennig i ymuno â chriw ifanc o Ysgol Bro Morgannwg a gweld eu hagweddau nhw at addysg Gymraeg, gan gofio fod y mwyafrif ohonynt yn dod o deuluoedd di-Gymraeg, fel fi. Roeddwn i'n bendant yn gallu uniaethu gyda nhw," ychwanega.
Gyda'r newyddion fod Cyngor Sir Caerdydd yn bwriadu ymestyn nifer yr ysgolion cyfun cyfrwng Cymraeg o ddwy i bedair erbyn 2012, mae Nicky yn gefnogwr brwd o'r cynlluniau ac mae o'r farn fod addysg Gymraeg yn mynd o nerth i nerth.
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales