Neidio at y cynnwys

S4C

Tydi a Roddaist: Taith Gerddorol Arwel Hughes

Tydi a Roddaist: Taith Gerddorol Arwel Hughes

Arwel Hughes oedd un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw ei gyfnod ac mae ei waith enwocaf, yr emyn dôn Tydi a Roddaist, yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd ledled y wlad.

Yn y rhaglen hon, bydd mab y cyfansoddwr, yr arweinydd byd-enwog, Owain Arwel Hughes, yn mynd ar drywydd rhai o'i weithiau llai adnabyddus, gan edrych ar etifeddiaeth gerddorol ei dad, a fu farw ym 1988.

Bydd y rhaglen, rhan o'r gyfres Sioe Gelf, yn dilyn Owain wrth iddo gynnal ymarferion gyda Cherddorfa Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, er mwyn paratoi ar gyfer taith sydd yn cynnwys perfformiadau arbennig o Prelude for Orchestra, a gyfansoddwyd gan Arwel Hughes ar gyfer ieuenctid Cymru ym 1945. Penllanw'r holl waith yw perfformiad cofiadwy dan arweiniad Owain yng Ngŵyl y Tri Chôr yn Henffordd.

Yn ogystal â thaith Owain Arwel Hughes a'r gerddorfa, mae'r rhaglen yn mynd ar daith arall - taith gerddorol Arwel Hughes ei hun. Ar y daith honno, cawn glywed gan nifer oedd yn ei adnabod, gan gynnwys brawd a chwaer Owain, Ieuan a Delun.

Yn enedigol o Rosllannerchrugog, yn un o ddeg o blant, dangosodd Arwel dalent gerddorol arbennig yn ifanc iawn. Gwnaeth argraff yn lleol fel cyfeilydd i'r ffilmiau di-sain yn y sinema drws nesaf i'w gartref pan oedd ond yn bedair-ar-ddeg-oed.

Ymhlith ei gyfansoddiadau mae dwy opera - Menna a Serch yw'r Doctor - ac ef oedd y cyfansoddwr byw cyntaf i gael opera wedi ei pherfformio gan Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Cyfansoddodd ei waith mwyaf adnabyddus, Tydi a Roddaist, i eiriau T. Rowland Hughes wrth aros am drên yng ngorsaf Yr Amwythig y noson cyn oedd angen iddo ei gwblhau.

"Dyma gyfle felly i'r cyhoedd i weld a chlywed un o gyfansoddiadau fy nhad yn cael ei berfformio," ychwanega Owain.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales