S4C

Close
Flash is required to view this video

Tynged yr Iaith

Tynged yr Iaith

Adam Price a thynged yr iaith yn y Gymru fodern

Ym 1962, roedd Saunders Lewis wedi proffwydo diwedd y Gymraeg fel 'iaith fyw' erbyn dechrau'r unfed ganrif ar hugain. Dros ddegawd mewn i'r ganrif honno, a 50 mlynedd wedi darlith enwog Tynged yr Iaith, bydd rhaglen ar nos Lun, 13 Chwefror yn gosod ei eiriau yn eu cyd-destun cyfoes.

Drwy lygaid y gwleidydd Adam Price byddwn yn bwrw golwg ar iechyd yr iaith gan ddefnyddio ardal Aman-Tawe fel drych. Mae'r ardal yn arwyddocaol oherwydd yn ôl Bwrdd yr Iaith Gymraeg mae parhad y Gymraeg fel iaith bob dydd yma 'o dan fygythiad difrifol'.

"Mae hefyd yn ardal o arwyddocâd arbennig i fi oherwydd o Ddyffryn Aman rwy'n dod," meddai'r cyn AS dros Blaid Cymru. "Dyw hi ddim yn ardal sy'n cael ei chysylltu gan lawer fel cadarnle'r iaith Gymraeg, ac eto os na chynhaliwn ni'r iaith yn yr ardal yma dwi ddim yn gweld y bydd dyfodol i'r iaith fel iaith hyfyw.

"Pan ddaw canlyniad cyfrifiad 2011 mae'n debyg y bydd yn dangos cynnydd eto yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae Llywodraeth Cymru a chyrff statudol yn dadlau bod y frwydr wedi'i hennill, bod y Gymraeg wedi troi cornel. Ond yw hi mewn gwirionedd?"

Wrth sgwrsio ag arbenigwyr ym maes iaith, addysg, diwylliant a gwaith, bydd Adam yn gofyn pam mae'r iaith yn dirywio yn yr ardal a sut i'w harbed.

Yr arbenigwr addysg Heini Gruffydd fydd yn edrych ar lwyddiant ysgolion Cymraeg, ond yn denu sylw at y methiant llwyr mewn ymdrechion i drosglwyddo'r iaith i oedolion. Bydd Catherine Rees, Dirprwy Brif Weithredwr Menter a Busnes yn nodi pwysigrwydd gwaith a diwydiant wrth gynnal cymuned Gymraeg ei hiaith. Ac yn codi'r pwynt dadleuol o fewnlifiad, bydd yr arbenigwr iaith, a brodor o Ddyffryn Aman, Cefin Campbell. Yn gosod y cyd-destun diwylliannol bydd Dr Tudur Hallam, arbenigwr ar Saunders Lewis, fydd yn trafod y dyn ac arwyddocâd ei eiriau.

"Un o'r pethe pwysicaf am Saunders yw'r ffaith ei fod e'n fodlon sefyll y tu fas i'r consensws ar y pryd. Roedd e'n fodlon cymryd y safbwynt amhoblogaidd ac roedd hynny yn beth prin yng Nghymru ym 1962, ac yn y Gymru fodern hefyd," meddai Adam, sy'n gweld tebygrwydd rhyngddo ef a Saunders Lewis yn yr agwedd hon.

"Yn fy arddegau, roeddwn i'n gweld yr iaith fel trysor allai gael ei golli os nad oedden ni yn fodlon brwydro drosto, ac roedd hynny yn agwedd bur lleiafrifol yn yr ardal bryd hynny."

I gloi'r rhaglen, bydd Adam yn gosod seiliau ar gyfer 'Tynged yr Iaith' ei hun ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ond yn pwysleisio hefyd neges o'r ddarlith wreiddiol sy'n parhau yn gadarn hyd heddiw.

"Prif fyrdwn neges Saunders yw bod tynged yr iaith Gymraeg yn ein dwylo ni. Mae'r iaith Gymraeg yn fyw neu'n farw bob tro rydym ni'n dewis ei defnyddio hi neu beidio. Mae yna gyfrifoldeb ar unigolion ond mae yna gyfrifoldeb ar y genedl hefyd."

Bydd trafodaeth bellach ar sefyllfa'r iaith, hanner canrif wedi Tynged yr Iaith mewn rhifyn arbennig o Pawb a'i Farn, nos Iau, 16 Chwefror. Dewi Llwyd fydd yn cyflwyno'r trafod o Neuadd y Brangwyn, Abertawe ac ymhlith y panelwyr bydd yr ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis, Ron Jones o gwmni Tinopolis a Simon Brooks, darlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.