S4C

Close
Flash is required to view this video

Un o Bob Tri

Un o Bob Tri

Beti George – y frwydr i goncro Alzheimer

Yn ôl yr ystadegau, mae bron deugain mil o bobl yng Nghymru â'r clefyd Alzheimer neu fath arall o ddemensia - ac mae'r ffigyrau'n awgrymu y bydd un o bob tri ohonom ni yn marw gyda'r afiechyd.

Yn y rhaglen ddogfen rymus Un o Bob Tri nos Fercher, 29 Chwefror, fe fydd y ddarlledwraig Beti George yn darganfod mwy am ddemensia, gan gwrdd â theuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan y clefyd a galw ar y Llywodraeth i weithredu'n gyflym i fynd i'r afael â'r argyfwng y mae'r salwch yn ei greu.

Mae gan y newyddiadurwraig brofiadol resymau personol dros deimlo'n angerddol am y cyflwr - mae ei phartner, yr awdur a'r darlledwr 78 oed, David Parry-Jones â'r clefyd Alzheimer, y math mwyaf cyffredin o ddemensia, ers tair blynedd.

Mae'r profiad o fyw gyda rhywun annwyl iddi sydd â'r clefyd wedi ei gwneud hi'n benderfynol i godi ymwybyddiaeth am glefyd Alzheimer ac mae'r rhaglen emosiynol, angerddol Un o Bob Tri, yn rhan o'r ymgyrch.

"Mae gweld y cyflwr yn effeithio ar David, dyn a oedd yn ei elfen yn darllen ac ysgrifennu ac wedi ennill gwobr Brydeinig am un o'i lyfrau am hanes rygbi Cymru, wedi fy ngwneud i'n benderfynol i agor y drafodaeth am y clefyd Alzeheimer a demensia," meddai Beti sy'n byw yng Nghaerdydd ac yn wreiddiol o Goed-y-Bryn, Ceredigion.

"Sut yn y byd yr ydym ni'n disgwyl y byddwn yn ymdopi fel cymdeithas pan fydd un o bob tri ohonom yn byw gyda'r cyflwr? Rhaid inni fuddsoddi llawer mwy yn yr ymchwil meddygol i arafu ac atal y cyflwr ffisegol creulon hwn sy'n ymosod ar gelloedd yr ymennydd ac i wella'r gofal a ddarperir ar gyfer pobl â'r cyflwr."

Yn y rhaglen, o stabl cwmni cynhyrchu Fflic, fe fyddwn yn rhannu ei phrofiadau hi a David Parry-Jones wrth iddo gymryd rhan mewn treialon meddygol arbennig o dan Ysbyty Llandoche, Caerdydd, yn ymdopi a bywyd bob dydd ac yn mynd i weld tîm rygbi Cymru yn chwarae yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.

Mae David ar driniaeth cyffuriau sy'n arafu'r cyflwr ac mae'n dal yn gallu mwynhau bywyd cymharol gyflawn er gwaetha'r rhwystredigaeth ofnadwy o fod yn anghofus.

Mae Beti George yn rhannu ei phrofiadau ar daith bersonol ledled Cymru wrth iddi gwrdd â phobl ag Alzheimer's fel Megan Lloyd a'i theulu yn Wrecsam, a gofalwyr fel Saundra Storch ym Mhontyberem a Hywel Jones a'i deulu yn Aberystwyth.

Mae sefyllfa'r teuluoedd hyn i gyd yn wahanol - ond yr hyn sy'n eu huno yw'r angen am well gofal a chefnogaeth gan y wladwriaeth a chymdeithas.

"Mae'n rhaid dweud ein bod ni ymhell ar ei hol hi o safbwynt gofal yma yng Nghymru, Mae yna eithriadau - fe wnes i ymweld â chartrefi Bryn Blodau, Llan Ffestiniog a Glyn Menai, Bangor sy'n enghreifftiau calonogol o ddefnyddio dulliau sy'n gwneud bywyd yn werth ei fyw i bobl sydd wedi'u cau yn aml yn eu bydoedd preifat. Mae'r gofal a roddir yn y cartrefi yma'n dangos y ffordd i Gymru gyfan." Ar ei thaith, mae'n cwrdd â nifer o arbenigwyr yn y maes, gan gynnwys Yr Athro Julie Williams, arbenigwraig geneteg ym Mhrifysgol Caerdydd a'r Athro Bob Woods, Adran Seicoleg Prifysgol Bangor.

Meddai Beti: 'Os nad oes na fuddsoddi nawr mewn ymchwil, fe fydd cost emosiynol ac ariannol y clefyd yma ymhen degawd arall yn waeth nag y gallwn amgyffred. Mae'r arian sy'n cael ei wario ar ymchwil demensia yn 12 gwaith yn is na'r arian a werir ar ymchwil cancr - £50 miliwn o'i gymharu â £590 miliwn."