Neidio at y cynnwys

S4C

Cymru yn Washington

Cymru yn Washington

Mynd â thalp o Gymru i Washington

Bu'r gof ac artist gwaith gosod, Angharad Pearce Jones, yn gweithio'n galed am bum mis yn paratoi ar gyfer arddangosfa Cymru yng Ngŵyl y Smithsonian yn Washington DC eleni.

Gŵyl yw hon sy'n dathlu diwylliant gwerin. Mae'n cael ei chynnal yn flynyddol ar y Mall Cenedlaethol yn Washington, sef y parc rhwng adeilad y Capitol a Chofeb Lincoln, gan ddenu dros filiwn o ymwelwyr. Eleni, roedd diwylliant Cymru yn cael lle blaenllaw.

Angharad, a ddaw yn wreiddiol o'r Bala ond sydd wedi ymgartrefu ym Mrynaman erbyn hyn gyda'i gŵr Tom, a'u plant Gwilym a Bryn , oedd yn gyfrifol am gynllunio arddangosfa Cymru.

O Gymru i Washington

Mewn rhaglen ddogfen y Sioe Gelf - Cymru yn Washington - mi gawn ninnau ei dilyn wrth iddi dreulio deg diwrnod cyffrous yn Washington, yn dod â phob dim at ei gilydd ar gyfer agoriad yr Ŵyl.

Yn cynorthwyo Angharad gyda'r gwaith o godi'r arddangosfa oedd y waliwr Stuart Fry o Feulah ym Mhowys, a'r artistiaid Carwyn Evans o Landyfrïog, ger Castellnewydd Emlyn, a Howard Bowcott o Benrhyndeudraeth.

Cawn gipolwg hefyd ar rai o weithgareddau'r Ŵyl, a chlywed gan rai o'r Cymry a fu'n rhan ohoni, gan gynnwys y gantores Siân James, y bardd Ceri Wyn Jones, a'r artist, Christine Mills.

Cynllun uchelgeisiol

Roedd ei chynllun uchelgeisiol yn golygu llawer o waith corfforol gan fod yn rhaid codi wal garreg, mynedfeydd amrywiol gan gynnwys giatiau mochyn a chamfeydd, a physt rygbi.

"Mi wnaeth pawb weithio'n galed, ac mi roedd Stuart yn wych. Mae'n bersonoliaeth mor fawr ac roedd rhesi o bobl yn aros i'w holi am ei waith. Mi ro'n i'n jetlagged ar ôl cyrraedd adra, ond mi ro'n i'n teimlo fy mod wedi gwneud fy ngorau dros fy ngwlad. Mae wedi bod yn fraint. Rwy'n hynod o falch ein bod ni wedi dangos fod bywyd cefn gwlad a'n diwylliant yn dal yn fyw, yn gyfoes, ac yn berthnasol i fywyd heddiw."

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales