Neidio at y cynnwys

S4C

Wynebau Newydd

Wynebau Newydd: Malawi - Difaru Dim

Bydd criw o Gymry ifainc yn cynnal cwrs ffilm ym Malawi yn ne ddwyrain Affrica, ym mhennod ddiweddaraf y gyfres Wynebau Newydd.

Yn y rhaglen cawn ddilyn Bethan Marlow a'i ffrindiau Laura Jones, y cyfarwyddwr teledu Eilir Pierce a'r dyn camera Matthew Walter, wrth iddynt geisio creu prosiect ffilm mewn gwlad sy'n cael ei hystyried yn un o wledydd tlotaf y byd.

Pam Malawi?

Meddai Bethan, "Y syniad oedd bo' fi isho bod yn rhan o brosiect oedd yn galluogi i bobl mewn gwlad drydydd byd leisio barn a dangos eu bywyd nhw eu hunain. Rwy'n licio meddwl bod yna bobl ifanc ymhob gwlad sydd hefo breuddwydion ac uchelgeisiau, ac sy'n greadigol. Dwi'n credu bod yn rhaid rhoi cyfle iddyn nhw wireddu breuddwyd. Y rheswm pam nes i ei alw'n 'Difaru Dim' yw achos dyna yw'n gôl i - i wneud yn siŵr bod yna ddim troi yn ôl a bod y prosiect yma yn parhau."

Man cychwyn y prosiect yw cynnal clyweliadau ym Malawi er mwyn dod o hyd i ddeuddeg person ifanc brwdfrydig i gymryd rhan. Wedi dewis y deuddeg, cawn ddilyn Bethan a'i ffrindiau yn ystod y cwrs pedair wythnos wrth iddyn nhw drosglwyddo eu sgiliau camera, actio, sgriptio, cyfarwyddo a chynhyrchu i'r criw.

"Fe wnaethon ni wneud o'n glir o'r dechrau mai cyd-weithio hefo nhw oedd ein bwriad, yn hytrach na dweud wrthyn nhw beth i'w wneud," meddai Bethan.

Ond gyda dau ddiwylliant mor wahanol yn ceisio cydweithio, nid ar y sgrin yn unig mae'r ddrama...

Mae angen Javascript a Flash arnoch i weld y fideo.

Lawrlwytho Adobe Flash Player

Dolenni Wynebau Newydd:

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales