Neidio at y cynnwys

S4C

Wynebau Newydd

Wynebau Newydd: Stori Allison

Hanes dirdynnol merch ddewr o Gymru sydd wedi cael pedwar trawsblaniad fydd yn cael sylw yn rhaglen gyntaf cyfres newydd Wynebau Newydd.

Mae Allison John o Abergwaun wedi derbyn mwy o drawsblaniadau na'r un ferch arall ym Mhrydain ac wedi cael iau, calon, ysgyfaint ac aren newydd. Mae hi bellach yn llysgennad dros Sefydliad Aren Cymru.

Mae'r rhaglen yn dilyn Allison dros gyfnod o flwyddyn wrth iddi ymgyrchu'n frwd i newid y gyfraith ar drawsblaniadau fel bod organau yn cael eu rhoi yn awtomatig ar farw, yn hytrach na bod pobol yn gorfod cofrestru a rhoi'r hawl ymlaen llaw. Mae'n frwydr fawr, fel y bu ei bywyd ar hyd ei hoes.

"Dechreuais i fod yn llysgennad dros Sefydliad Aren Cymru achos o'n i'n meddwl mai'n rôl i oedd bod yn llais i bob un yng Nghymru sydd wedi cael trawsblaniad," esbonia Allison. "Wy wedi bod yno, felly mae mwy o dryst 'da nhw ynof i achos maen nhw'n gwybod bo fi'n angerddol am y pwnc."

Allison hefyd yw'r person cyntaf ym Mhrydain i gael trawsblaniad, sy'n astudio Meddygaeth yn y coleg. Mae'r ffaith ei bod yn astudio yn y coleg ac yn llysgennad mor egniol yn golygu bod ei stori yn ysbrydoli eraill.

"Ma' shwt gymaint o egni a nerth 'da fi nawr, wy moyn gwneud pethe, a joio bywyd," meddai Allison. "Byw bywyd normal, dyna i gyd wy'n gofyn amdano."

Dolenni Wynebau Newydd:

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales